![]() | |
Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llandderfel ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.934°N 3.54°W ![]() |
Cod OS | SH965385 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref bychan yngnghymunedLlandderfel,Gwynedd,Cymru, ywCefnddwysarn[1] ( ynganiad ) (neuCefn-ddwysarn).[2] Saif yn ardalMeirionnydd tua tri chwarter milltir i'r de-orllewin o bentrefSarnau ar briffordd yrA494 a rhyw dair milltir i'r dwyrain o'rBala.
Rhwng y ddau bentref maeCors y Sarnau. I'r gogledd mae bryn Cefn Caer-Euni â'ifryngaer fechanCaer Euni (neu Eini). I'r gorllewin mae tref Y Bala aLlyn Tegid ac ar orwel y dwyrain rhed llethrau cadarnY Berwyn. Mae twmpath - safle castell pren efallai - ar ymyl Cefnddwysarn i'r de.
Cynrychiolir yr ardal hon ynSenedd Cymru ganMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac ynSenedd y DU ganLiz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]
Mae gan yr ardal hon le arbennig yn niwylliant Cymru. Er nad yw'n fawr o le mae wedi magu sawl person enwog.
Yno yn1859 ar fferm y Cynlas y ganwydThomas Edward Ellis (Tom Ellis), un o wleidyddion disgleiriaf ei ddydd ac aelod blaenllaw o'rRhyddfrydwyr a mudiadCymru Fydd. Cafodd ei gladdu ym mynwent yr eglwys. Dadorchuddiwyd y goflech iddo sydd i'w gweld yn yr eglwys heddiw ganLloyd George yn1910.
Er iddo gael ei eni ynLlanfor, treuliodd y barddDavid Roberts (Dewi Havhesp) (1831-1884) y rhan helaeth o'i oes yng Nghefnddwysarn. Teiliwr ydoedd wrth ei alwedigaeth.
Bu'r barddRobert Williams Parry yn brifathro ysgol Y Sarnau am flwyddyn yn y1910au cynnar.
Un o enwogion eraill y fro ywLlwyd o'r Bryn, a aned ar fferm rhwng Cefnddwysarn aLlandderfel yn1888. Mae ei lyfr adnabyddusY Pethe yn llawn o ddigrifiadau ac atgofion o'r fro a'i chymdeithas drwyadl Gymraeg.
O ardal y Sarnau y daw'r ddau frawd, yprifeirddGerallt Lloyd Owen a Geraint Lloyd Owen. Mae rhai o gerddi gorau Gerallt yn ymwneud â chymeriadau a thirlun y fro. Geraint oedd Archdderwydd Cymru o 2016 i 2018 dan yr enw barddol Geraint Llifon.
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw ·Y Bala ·Bethesda ·Blaenau Ffestiniog ·Caernarfon ·Cricieth ·Dolgellau ·Harlech ·Nefyn ·Penrhyndeudraeth ·Porthmadog ·Pwllheli ·Tywyn
Pentrefi
Aberangell ·Aberdaron ·Aberdesach ·Aberdyfi ·Aber-erch ·Abergwyngregyn ·Abergynolwyn ·Aberllefenni ·Abersoch ·Afon Wen ·Arthog ·Beddgelert ·Bethania ·Bethel ·Betws Garmon ·Boduan ·Y Bont-ddu ·Bontnewydd (Arfon) ·Bontnewydd (Meirionnydd) ·Botwnnog ·Brithdir ·Bronaber ·Bryncir ·Bryncroes ·Bryn-crug ·Brynrefail ·Bwlchtocyn ·Caeathro ·Carmel ·Carneddi ·Cefnddwysarn ·Clynnog Fawr ·Corris ·Croesor ·Crogen ·Cwm-y-glo ·Chwilog ·Deiniolen ·Dinas, Llanwnda ·Dinas, Llŷn ·Dinas Dinlle ·Dinas Mawddwy ·Dolbenmaen ·Dolydd ·Dyffryn Ardudwy ·Edern ·Efailnewydd ·Fairbourne ·Y Felinheli ·Y Ffôr ·Y Fron ·Fron-goch ·Ffestiniog ·Ganllwyd ·Garndolbenmaen ·Garreg ·Gellilydan ·Glan-y-wern ·Glasinfryn ·Golan ·Groeslon ·Llanaber ·Llanaelhaearn ·Llanarmon ·Llanbedr ·Llanbedrog ·Llanberis ·Llandanwg ·Llandecwyn ·Llandegwning ·Llandwrog ·Llandygái ·Llanddeiniolen ·Llandderfel ·Llanddwywe ·Llanegryn ·Llanenddwyn ·Llanengan ·Llanelltyd ·Llanfachreth ·Llanfaelrhys ·Llanfaglan ·Llanfair ·Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) ·Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) ·Llanfihangel-y-traethau ·Llanfor ·Llanfrothen ·Llangelynnin ·Llangïan ·Llangwnadl ·Llwyngwril ·Llangybi ·Llangywer ·Llaniestyn ·Llanllechid ·Llanllyfni ·Llannor ·Llanrug ·Llanuwchllyn ·Llanwnda ·Llanymawddwy ·Llanystumdwy ·Llanycil ·Llithfaen ·Maentwrog ·Mallwyd ·Minffordd ·Minllyn ·Morfa Bychan ·Morfa Nefyn ·Mynydd Llandygái ·Mynytho ·Nantlle ·Nantmor ·Nant Peris ·Nasareth ·Nebo ·Pant Glas ·Penmorfa ·Pennal ·Penrhos ·Penrhosgarnedd ·Pen-sarn ·Pentir ·Pentrefelin ·Pentre Gwynfryn ·Pentreuchaf ·Pen-y-groes ·Pistyll ·Pontllyfni ·Portmeirion ·Prenteg ·Rachub ·Y Rhiw ·Rhiwlas ·Rhos-fawr ·Rhosgadfan ·Rhoshirwaun ·Rhoslan ·Rhoslefain ·Rhostryfan ·Rhos-y-gwaliau ·Rhyd ·Rhyd-ddu ·Rhyduchaf ·Rhydyclafdy ·Rhydymain ·Sarnau ·Sarn Mellteyrn ·Saron ·Sling ·Soar ·Talsarnau ·Tal-y-bont, Abermaw ·Tal-y-bont, Bangor ·Tal-y-llyn ·Tal-y-sarn ·Tanygrisiau ·Trawsfynydd ·Treborth ·Trefor ·Tre-garth ·Tremadog ·Tudweiliog ·Waunfawr