Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Cedor

Oddi ar Wicipedia

Blew sy'n tyfu o amgylchorganau cenhedlu oedolion yw'rgedor. Er fod blew mân yn bresennol yn ystodplentyndod, yn ystodglasoed mae'r gedor yn cychwyn tyfu.

Datblygiad y gedor

[golygu |golygu cod]
Cedor wrywaidd.

Mewn merched, ymddengys blew cedor ar hyd ymylon y gweflau mwyaf (labia majora) yn gytaf fel arfer, gan ledaenu dros ycnwc Gwener yn y ddwy flynedd a ganlyn. Wedi 2-3 mlynedd olasoed, (a thua'r un amser a chychwynmislifiad yn y rhan fwyaf o laslancesi) mae siâp trionglog pendant i'r gedor. Yn y ddwy flynedd ar ôl hynny, mae'r blew yn tyfu ar du fewn y morddwydydd hefyd, ac weithiau mewn llinell tuag at ybotwm bol yn ogystal.

Mewn bechgyn, ymddengys y gedor yn gyntaf fel blew mân ar yceillgwd neu wrth waelod ypidyn. O fewn blwyddyn, mae yna flew o gwmpas gwaelod y pidyn. O fewn 3-4 mlynedd, mae'r blew yn gorchuddio'r ardal gyfagos, ac yn dod yn fwy trwchus a thywyll. Wedi oddeutu 5 mlynedd o lasoed, mae'r blew yn ymestyn i du fewn y morddwydydd, ac i fynny tua'r botwm bol yn ogystal.

Ymddengys blewiach tebyg yngngheseiliau merched a bechgyn hefyd. Tua diwedd glasoed glaslanciau, mae blew yn cychwyn tyfu ar yfrest, yrwyneb a'rcefn.

Swyddogaeth

[golygu |golygu cod]
L'Origine du monde’, llun a baentiwyd ganGustave Courbet ym1866, sy'n dangos cedor fenywaidd.

Gwyddys mai swyddogaethesblygol y gedor, ablew yn gyffredinol yw i amddiffyn y corff rhag crafiadau a chosi poenus.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Cedor&oldid=11834330"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp