Ail-ddinas fwyafLithwania ywCawnas (/ˈkaʊnəs/;Lithwaneg:Kaunas[kɐʊˑn̪ɐs̪] (gwrando);Pwyleg:Kowno; gyntSaesneg:Kovno), sydd wedi'i lleoli yng nghanol y wlad ac sy'n hanesyddol yn ganolfan economaidd, academaidd, a diwylliannol bwysig yn Lithwania. Mae'r ddinas tua hanner ffordd rhwngVilnius, y brifddinas, aMemel, prif borthladd Lithwania.
Lleoliad Cawnas yn Lithwania
Mae'r enw hefyd yn cwmpasu sir Cawnas, seddDinas Cawnas aDosbarth Cawnas. Defnyddir yr enw hefyd am sedd Archesgobaeth Gatholig Cawnas. Fe'i lleoli yng nghymer dwy afon fwayf Lithwania:Afon Nemunas acAfon Neris, a gerCronfa Ddŵr Cawnas, y corff mwyaf o ddŵr yn Lithwania.
Credir y cafodd Cawnas ei sefydlu yn 1030, ond mae'n cael ei chrybwyll gyntaf mewn ffynonellau ysgrifenedig yn 1361. Mae tarddiad mwyaf tebygol enwLithwaneg y ddinas yn deillio o enw personol tebyg.[1]