Enghraifft o: | cysyniad gwleidyddol ![]() |
---|
Ffurf llywodraeth ywcaudillismo ar sail arweinyddiaeth unigol ycaudillo—unben sydd yn meddu ar dra-arglwyddiaeth wleidyddol a chymdeithasol drwy awdurdod milwrol a grym carismatig—a fodolai mewn gwledyddSbaenegyr Amerig yn y 19g.
Datblygoddcaudillismo o'r hen drefn gymdeithasol yng ngwladfeyddYmerodraeth Sbaen yny Byd Newydd, gwleidyddiaeth sydd yn seiliedig ar agweddau tadol yrhacienda ("ystâd"): gwelid ycaudillo yn cyfateb, ar lefel genedlaethol, i bennaeth yrhacienda, a'r dinasyddion yn cyfateb i'r gweithwyr. Defnyddiwyd yr enw Sbaenegcaudillo ("arweinydd") i ddisgrifio cadlywydd a oedd yn bennaeth ar lu o filwyr afreolaidd ac yn rheoli tiriogaeth benodol, gyda'i awdurdod anffurfiol yn seiliedig ar ffyddlondeb ei gefnogwyr a'i bersonoliaeth garismatig.[1] Yn sgil y rhyfeloedd annibyniaeth ar draws America Ladin yn nechrau'r 19g, heriwyd awdurdod y llywodraethau newydd gan ycaudillos.
Prif ladmeryddcauillismo, mae'n debyg, oedd yr ArchentwrDomingo Faustino Sarmiento, sydd yn nodedig am ei ysgrif hirFacundo, o Civilización i barbarie (1845), neu yn fyrFacundo. Mewn enw, bywgraffiad o'rcaudilloJuan Facundo Quiroga ydyw, ac mae'r gwaith yn ymhelaethu ar holl agweddaucaudillismo ac arweinyddiaeth wleidyddol gan yr unigolyn. CafoddFacundo effaith bwysig ar syniadaeth wleidyddol yr Ariannin, ac yn fynegiant o'r hollt rhwng gwareiddiad ac anwaredd sy'n diffinio diwylliant a chymdeithas America Ladin yn y 19g.