Cathariaid yn cael eu gyrru o ddinasCarcassonne yn 1209
Mudiad crefyddol yn neFfrainc yn niwedd y Canol Oesoedd oedd yCathariaid, a elwid hefyd yrAlbigensiaid ar ôl dinasAlbi. Roedd rhai dilynwyr yng ngorllewinyr Almaen hefyd.
Ystyriai'r Cathariaid eu hunain fel y wir eglwys Gristionogol, tra ystyriai'rEglwys Gatholig hwy ynhereticiaid. Dilynent athrawiaethdeuoliaeth, ac roeddynt yn gwrthodyr Hen Destament, gan ystyried mai creawdwr y byd materol drygionus, yDemiurge, oeddDuw yr Hen Destament.
Yn 1145, gyrwydBernard o Clairvaux i dde Ffrainc i geisio perswadio'r Cathariaid i ddychwelyd at yr Eglwys Gatholig, ond heb lwyddiant. PenderfynoddPab Innocentius III ddefnyddio grym arfog yn eu herbyn, a ffurfiodd fyddin yn1209 gyda chefnogaethFfylip II, Brenin Ffrainc. Llwyddodd y fyddin, yn wreiddiol danArnaud-Amaury, abadCitaux, yma danSimon de Montfort, i orchfygu'r Cathariaid, gan gipio dinasToulouse oddi arnynt yn1215. Fodd bynnag, llwyddodd y Cathariaid i ad-ennill llawer o'u grym yn y blynyddoedd dilynol. Bu ymgyrch arall yn eu herbyn yn1243, a syrthiodd eu prif gaer, yChâteau de Montségur, y flwyddyn wedyn. Llosgwyd 215 o'rparfaits fel hereticiaid. Gyda hyn, daeth grym y Cathariaid i ben, er i'r mudiad ei hun barhau am gyfnod; yr olaf o'rparfaits i'w losgi oeddGuillaume Bélibaste yn1321 yn Villerouge-Termenès.