Rhywogaeth o gath fach sy'n frodorol i gyfandirEwrop yw'rgath goed (hefydcath wyllt;Felis silvestris). O ran ei gwedd, mae'n debyg i gath ddof fawr. Mae ganddi ffwr brown a llwyd â streipiau tywyll ar ei thalcen a'i hystlysau. Mae ei chynffon yn drwchus gyda blaen du. Mae ei phen a'i chorff gyda'i gilydd yn mesur hyd at 65 cm (26 modfedd), ei chynffon tua 34.5 cm (13.6 modfedd) o hyd; mae'n pwyso hyd at 7.5 kg (17 pwys).
Y gath goed yw'r unig aelod gwyllt o deulu'r cathod ynYnysoedd Prydain. Maen nhw i'w cael mewn ardaloedd bach ynUcheldiroedd yr Alban, lle maen nhw'n bwydo ar gwningod ac adar sy'n nythu ar y ddaear ar rostir ac mewn coetiroedd. Maen nhw'n swil iawn a bron yn gyfan gwbl nosol. Maent yn paru ym mis Chwefror ac mae ganddynt un torllwyth o ddau i chwe chath fach yn gynnar yn yr haf.[1]
Roedd y gath goed yn frodorol iGymru ar un adeg ond roedd wedi diflannu o'r mwyafrif o siroedd erbyn dechrau'r 19g, er bod adroddiadau am ei gweld o hyd yn y de-orllewin mor ddiweddar â 1848. Mae’r cofnod olaf o gath goed i’w gweld yng Nghymru yn dyddio o 1862, er mae'n bosibl mai gath goed go iawn oedd cath a gafodd ei saethu ynNhalybont,Ceredigion, ym 1893.[2]
- ↑"Wildcat", Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru; adalwyd 5 Ionawr 2025
- ↑"Wildcats in Wales", People's Trust for Endangered Species; adalwyd 5 Ionawr 2025