Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Castell Rhaeadr Gwy

Oddi ar Wicipedia
Castell Rhaeadr Gwy
Mathcastell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadRhaeadr Gwy Edit this on Wikidata
SirPowys
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.300696°N 3.514511°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwRD132 Edit this on Wikidata

Castell canoloesol a godwyd gan yrArglwydd Rhys oDdeheubarth ar safle gerRhaeadr Gwy yn1177 ywCastell Rhaeadr Gwy.

Codwyd y castell ar gyrion Rhaeadr Gwy yng nghantrefGwerthrynion yn 1177 gan yr Arglwydd Rhys fel rhan o ymgyrch gan Ddeheubarth am reolaeth yn y rhan yma oganolbarth Cymru. Cyfeirir ato eto ymMtur y Tywysogion yn y cofnod am1194; dywedir fod Rhys wedi ailgodi'r castell ond cafodd ei ddinistrio gan arglwyddiMaelienydd. CyfeiriaGerallt Gymro at y digwyddiad: dywed fod y castell a'r dref wedi eu llosgi fel cosb ganDuw. Ceir cyfeiriad pellach at "Gastell Gwerthrynion" yn cael ei ddifetha yn1202, ac mae'n bosibl mai Castell Rhaeadr Gwy a olygir.

Roedd y castell yn sefyll ar graig ar lanAfon Gwy gyda ffosau wedi'u cloddio yn y graig ei hun yn ei amddiffyn. Ambell garreg a rhan o'r ffos ogleddol yw'r unig olion sydd i'w gweld ar y safle heddiw, i'r gorllewin o dref Rhaeadr Gwy.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  • Paul R. Davies,Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Castell_Rhaeadr_Gwy&oldid=11008756"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp