![]() | |
Math | castell, safle archaeolegol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Aberteifi ![]() |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 12.1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.0815°N 4.66053°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CD123 ![]() |
CodwydCastell Aberteifi tua'r flwyddyn1100 ynAberteifi,Ceredigion. Yma y cynhaliwydEisteddfod Aberteifi 1176 dan nawddYr Arglwydd Rhys.
Adeiladwyd castell cyntafmwnt a beili Aberteifi (tua1093), a godwyd tua tair milltir oddi wrth safle'r castell presennol, mae'n debyg tua'r un amser sefydlwyd y dref ganRoger de Montgomery, barwnNormanaidd. Adeiladwyd rhadredegydd y castell presennol ganGilbert Fitz Richard Arglwydd Clare, wedi i'r un cynt gael ei ddinistrio. Etifeddodd ei fab,Gilbert de Clare, Iarll 1af Penfro y castell yn1136. Yr un flwyddyn, cafoddOwain Gwynedd fuddugoliaeth fawr ar Normaniaid y dref ymMrwydr Crug Mawr. Cymerwyd a llosgwyd y dref, er yr amddiffynnwyd y castell ei hun yn llwyddiannus gan y Normaniaid a oedd dan arweiniadRobert fitz Martin.
Ail-gipiwyd y castell gan y Normaniaid a'r Saeson a daeth i feddiantRoger de Clare, 3ydd Iarll Hertford. Yn1166 cymerwyd y castell ganRhys ap Gruffydd, ac ail-adeiladodd e'r castell mewn carreg yn1171. Yn1176 cynhaliwyd yreisteddfod gyntaf y gwyddys amdani yn y castell, sef Eisteddfod Aberteifi. Ar farwolaeth Rhys yn1197 ymdaerai ei feibion,Maelgwn aGruffudd, dros etifeddiaeth y castell ac yn y diwedd rhoddodd Maelgwn ei frawd Gruffudd i ddwylo'r Saeson a gwerthodd y castell i'r breninJohn o Loegr. Yn ddiweddarach delwyd y castell yn enwWilliam Marshal, Iarll 1af Penfro.
CipioddLlywelyn Fawr y castell yn1215 ac yn seneddAberdyfi yn1216 fe'i rhoddwyd i feibion Gruffudd ap Rhys o'rDeheubarth, ond yn1223 ail-gipwyd o ganWilliam Marshal, 2il Iarll Penfro. Yn1231 cymerwyd y castell ar ran Llywelyn ganRhys Gryg a'i gyngrheiriaid. Daliai Llywelyn y castell hyd ei farwolaeth yn1240. Ar ei farwolaeth, disgynodd y castell yn ôl i ddwylo'r Saeson, ac yn 1244 ail-adeiladwyd ef ganWalter Marshal, 5ed Iarll Penfro, gyda waliau tref ar gyfer gwarchod pellach. Gweddillion y castell hwn sydd i'w gweld uwchben yr afon heddiw.
Cafodd ei ddifetha'n sylweddol yn ystodRhyfel Cartref Lloegr, a hyd at y18g defnyddiwyd ef fel carchar. Ar ddechrau'r19g, adeiladwyd cartref o fewn waliau'r castellCastle Green House gan gyfuno'r tŵr gogleddol yn ei adeiladwaith. Yn y1940au ni chadwyd hi mewn cyflwr da, a gadewyd hi i ddadfeilio ymhellach gan y perchennog hyd i'r waliau fod angen cael eu cynnal.
Prynwyd y castell ganGyngor Ceredigion ym mis Ebrill 2003 ac maent yn bwriadu ei adfer fel rhan o gynllun dadeni Aberteifi. Ym mis Rhagfyr 2008, enillodd y castell swm o £300,000 gan y Gronfa Loteri Treftadaeth er mwyn ei adfer.[1]