MaeCastell (benthyciad o'rLladincastellum;Llydaweg Canolcastell,Gwyddeleg Canolcaisel. LluosogCestyll.) ynadeilad sydd wedi'i amddiffyn yn gryf. Math arbennig o amddiffynfa a ddatblygwyd yn yr Oesoedd Canol yw castell, ond mae ei gynseiliau'n gorffwys yng nghyfnod pobl fel yCeltiaid ynOes yr Haearn a godaifryngaerau niferus, a'rRhufeiniaid a godaigaerau ledledEwrop a'rMôr Canoldir. Ceir traddodiad o godi cestyll mewn nifer o wledydd eraill hefyd, er enghraifft ynTsieina aSiapan.
Dros y canrifoedd newidiodd y cestyll o wneuthuriad pren i gestyll cerrig, ac yn ddiweddarach, o fod yn amddiffynfa i fod yn blas neu gartref. Bellach maen nhw wedi newid o fod yn adeiladau milwrol i fod yn henebion ac yn atyniadau twristaidd.
Ceir gwahanol fathau o gestyll wrth gwrs, megisCestyll y Normaniaid a'rCestyll Cymreig. Llefydd milwrol ac amddiffynfeydd oedd cestyll yn yrOesoedd Canol, yn aml ar dir uchel gyda muriau trwchus athyredau uchel, ac yn aml hefyd rhagfuriau a ffos o gwmpas. Byddai'r ffenestri yn gul a'r drysau yn drymion. Roedd y castell yn rheolir dref hefyd yn aml, gyda mur o gwmpas y dref yn ogystal âbarbican, hefyd. I fynd i mewn i'r castell, yr oedd rhaid mynd drosbont godi a thrwy borthdy cryf â chlwydi aphorthcwlis. Roedddonjon (carchar dan ddaear) mewn llawer o'r cestyll. Weithiau byddai'r castell dan warchae am gyfnod hir a byddai rhaid ildio oherwydd diffyg bwyd.
Roedd y castell yn lle i drigo yn ogystal â bod yn amddiffynfa. Roedd ward fewnol, llety, ystafelloedd byw ac siambrau cysgu, rhai ohonyn nhw'n gyfforddus iawn,cegin,bwtri i gadwgwin neugwrw, canolfan weinyddol achapel. Roeddstablau i'r meirch acysguborau i gadw bwyd iddynt. Ond y peth pwysicaf i gyd oeddffynnon neu ffynhonnell dŵr arall i gadw'r amddiffynwyr yn fyw adeggwarchae. Gwarchae oedd un o'r bygythiadau gwaethaf i gastell a dyna pam yr oeddent yn ceisio bod mor hunangynhaliol â phosibl.
Roedd hi'n anodd i godi'r cestyll hyn weithiau am eu bod yn aml yn cael eu codi ar dir estron. Yn achos y cestyll Seisnig yng Nghymru yr oedd rhaid cael gweithwyr a chrefftwyr oLoegr neu gyfandirEwrop ac fe'i gorfodid i adael eu cartrefi i weithio yng Nghymru, efallai am flynyddoedd.
Roedd rhaid codi llawer o arian i godi'r cestyll hefyd. Y goruchwylwyr oedd yn gofalu am yr ochr ariannol ac yn talu'r gweithwyr. Ypensaer oedd yn gyfrifol am gynllunio'r castell a dewis safle i'w adeiladu. Y nesaf at y pensaer mewn pwysigrwydd oedd ysaer maen. Roedd yn bwysig caelchwarel yn gyfleus i gael meini i'r muriau. Byddent yn hollti'r cerrig yn y chwarel i arbed cludo cerrig diwerth heb eisiau. Roedd rhaid cael cerrig da a fyddai'n gorwedd yn esmwyth ar ei gilydd er mwyn gwneud y muriau allanol yn gadarn.