Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Carw

Oddi ar Wicipedia
Ceirw
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Mammalia
Urdd:Artiodactyla
Is-urdd:Ruminantia
Teulu:Cervidae
Goldfuss, 1820
Is-deuluoedd

Capreolinae
Cervinae
Hydropotinae
Muntiacinae

Mamal sy'n perthyn i'r teuluCervidae ywcarw. Mae e'n byw mewn coedwigoedd a chaiff ei hela. Mae pâr oreiddiau gyda gwryw bron pob rhywogaeth.

Hyd at yr16g parhâi'rcarw coch (enw gwyddonol:Cervus elaphus) a'r iwrch (C. capreolus) yn gyffredin yn yr ucheldiroedd, ond yn sgîl clirio coedwigoedd a dyfodiad y gwn prinhaodd y ddau, gan ddiflannu o'r gwyllt ddechrau'r18g. Cawsant loches mewn parciau stadau, o ble y dihangodd amryw o bryd i'w gilydd. Ceir cofnodion gwasgaredig o'r carw coch tra cynydda ac ymleda'riwrch o'r dwyrain.

Enwau lleoedd: Cerrig yr Iwrch (Meirion), Llyn Carw (Brycheiniog).

Cyflwynwyd ydanas (Dama dama) i Brydain gan y Normaniaid a daeth i barciau stadau yng Nghymru tua 1600. Dihangodd rhai, e.e. o'rGelli Aur yn y1950au aNannau yn1962 gan sefydlu'n llwyddiannus yn y gwyllt. Erbyn hyn fe'u ceir ym Meirion, Clwyd, y Gororau, Morgannwg a Chaerfyrddin.

Yn hanner ola'r20g ymledodd ycarw mwntjac (Muntiacus reevesi) i Gymru. Daeth i Barc Woburn oTsieina yn nechrau'r20g o ble y dihangodd ac ymledu'n gyflym.

Carw CochCervus elaphus

[golygu |golygu cod]

Y mwyaf o’r ceirw sy’ngynhenid neu sydd wedi eu cyflwyno iBrydain. RhywogaethHolarctig wedi ei ddosbarthu drosEwrop, y rhan fwyaf o fynydd-dirAsia,Siberia, yDwyrain Pell aGogledd America. Wedi ei gyflwyno iIwerddon,Tsile,Ariannin,Awstralia aSeland Newydd. YnEwrop ymhobman ac eithrio gogleddScandinafia,y Ffindir a rhai ynysoeddMôr y Canoldir. Mae’n ddiflanedig ynAlbania.

Cynefin

[golygu |golygu cod]

Yn wreiddiol trigai mewncoetiroedd collddail ond heddiw mynycha amrywiolgynefinoedd o goedwigoedd, fforestydd mynydd neu weundir agored (yrAlban). Anifailnosol gan fwyaf, yn ymborthi trwy bori a brig-bori.

Ffordd o fyw

[golygu |golygu cod]

Rhywogaeth gymdeithasol, yn byw mewn gyrroedd, y ddau rhyw ar wahan am y rhan fwyaf o’r flwyddyn. Maint y libart yn amrywio yn ôltymor arhyw ac yn gallu ymestyn dros gannoedd ohectarau mewn dwysder o 5 i 45 unigolyn y cilomepdr sgwâr.[1]

Statws yng Nghymru

[golygu |golygu cod]

Mae hanes y carw coch yn cychwyn yn ar ôl enciliad olaf y rhew yn ôl tystiolaeth olion archaeolegol mewn mawndir. Nid oes poblogaeth hyfyw yma ers rhai canrifoedd ond mae’r cofnod hanesyddol canlynol yn awgrymog o’r anawsterau wrth geisio dirnad gwir statws y carw coch yn y cyfnod hanesyddol hyd y presennol. Cofnod yw gan ddyddiadurwr o’r enwOwen Edwards, Penmorfa, Sir Gaernarfon yn cychwyn yn y flwyddyn1820:

Elin a minau yn mynd yn y Prydnhawn i Dy Mr. Owen Aberglaslyn yn gweled yno ddarn o asgwrn pen Carw a dau gorn y’nghlwm [sic] ynddo yn ddwy droedfedd o hyd a phedair Caingc [sic] ar bob un ac yn ddwyfodfeddarbymtheg a hanner o led o flaen i flaen wedi eu cael yn llyn Cerrigyrhwydwr wrth dynnu rhwyd ychydig o ddyddiau yn ôl gan Richd. William Tailiwr sydd yn byw yn Aberglaslyn. tebygyd ar yr olwg oedd arno ei fod yno er’s amryw flynyddau!!! Yn dyfod adref cyn naw o’r gloch.

Mae trafodaeth am arwyddocâd y cofnod hwn gan y daearegydd y Dr. Math Williams[2] yn amlygu’r anawsterau hyn.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Mitchell-Jones, A.J. ac eraill (1999) The Atlas of European Mammals (T. & A.D Poyser)
  2. [1]]Llyfrgell gwefan Llên Natur
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir iTwm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia ganDefnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).



Chwiliwch amcarw
ynWiciadur.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Carw&oldid=13444794"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp