Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Cartimandua

Oddi ar Wicipedia
Cartimandua
Ganwyd1 g Edit this on Wikidata
Bu farw69 Edit this on Wikidata
Prydain Fawr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBritannia Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, brenhines cyflawn, brenhines Edit this on Wikidata
Swyddbrenhines cyflawn Edit this on Wikidata
PriodVenutius, Vellocatus Edit this on Wikidata

RoeddCartimandua neuCartismandua (a deyrnasodd o tua43 -69) yn frenhines yBrigantes, sef llwythCeltaidd yng ngogleddLloegr.

Daw'r wybodaeth am Cartimandua o weithiau'r hanesydd RhufeinigTacitus. Mae Tacitus yn sôn amdani gyntaf yn y flwyddyn51, ond roedd eisoes wedi bod mewn grym am rai blynyddoedd cyn hynny. Gwnaeth hi a'i gŵr, Venutius, gynghrair â'r Rhufeiniaid a pan ffôddCaradog at y Brigantes wedi iddo gael ei orchfygu ganPublius Ostorius Scapula tua'r flwyddyn 51, cymerodd ef yn garcharor a'i drosglwyddo i'r Rhufeiniaid.

Rywbryd wedyn, ysgarodd Cartimandua ei gŵr Venutius, a chymerodd ei gludydd arfau, Vellocatus, yn ei le. Datblygodd rhyfel rhyngddi hi a Venutius. Pan ymosododd Venutius ar ei theyrnas yn y flwyddyn57, cafodd Cartimandua gefnogaeth y Rhufeiniad, a yrrodd filwyr i'w hamddiffyn.

YmMlwyddyn y Pedwar Ymerawdwr.69 OC., manteisiodd Venutius ar yr anghydfod ymhlith y Rhufeiniaid i ymosod eto. Y tro hwn cipiodd y deyrnas. Gyrrodd y llywodraethwr Rhufeinig,Marcus Vettius Bolanus, filwyr i achub Cartimandua o afael Venutius, ond ni allasant adfer y deyrnas iddi. Nid oes cofnod pellach amdani.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Cartimandua&oldid=10972802"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp