Enghraifft o: | llwyth ![]() |
---|---|
Math | Y Galiaid ![]() |
![]() |
LlwythCeltaidd yngNgâl oedd yCarnut. Roedd eu tiriogaethau rhwngAfon Seine acAfon Loire, yn yr hyn a ddaeth yn ddiweddarach yndepartementsEure-et-Loir,Loiret aLoir-et-Cher. Eu prifddinas oeddAutricum (Chartres heddiw), a chanolfan bwysig arall oeddCenabum (Orleans).
Yn ôl y Rhufeiniaid, tiriogaeth y Carnutes oedd canolfan wleidyddol a chrefyddol y llwythau Galaidd. DywedIŵl Cesar fod yderwyddon yn cynnal cyfarfod yn nhiriogaeth y Carnutes. Roedd y llwyth yn cynhyrchu darnau arian yn yganrif 1af CC.
Erbyn cyfnod ymgyrchoedd Iŵl Cesar yng Ngâl, roedd y Carnutes yn ddibynnol ar lwyth yRemi. Gosododd Cesar ei ddewis ei hun, Tasgetius, ar yr orsedd fel brenin y Carnutes, ond o fewn tair blynedd roedd wedi cael ei lofruddio. Ar13 Chwefror,53 CC, lladdodd y Carnutes y marsiandïwyr Rhuufeinig yn Cenabum fel rhan o wrthryfelVercingetorix. Llosgodd Cesar ddinas Cenabum, gan ladd y dynion a gwerthu'r merched a phlant fel caethweision. Gyrrodd y Carnutes 12,000 o ryfelwyr i gymryd rhan yn yr ymgyrch aflwyddiannus i godi'r gwarchae arAlesia, ond wedi methiant yr ymgyrch, gorfodwyd hwy i ildio i Cesar.