Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Carabiner

Oddi ar Wicipedia
Carabiner
Mathrock and sport climbing equipment, quickdraw Edit this on Wikidata
Rhan ooffer, quickdraw, Q2981911 Edit this on Wikidata
Cysylltir gydafull-harness, belay device Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01s4v edit this on wikidata
QuoraCarabiners edit this on wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mathau o carabiners

Math arbennig o ddolen fetel gyda gât sbring-lwythog sy'n cael ei ddefnyddio i gysylltu cydrannau yn gyflym, ywcarabiner.[1] Mae'n cael ei ddefnyddio gan amlaf mewn systemau diogelwch. Mae'r gair yn ffurf fyrrach o'r gair AlmaenegKarabinerhaken, sy'n golygu "bachyn sbring" a ddefnyddir gan reifflwr cabin i gysylltu eitemau i wregys.[2]

Mae carabiners, a elwir yn aml yn Fodrwyon-D gan filwyr proffesiynol, yn cael eu defnyddio'n helaeth mewn gweithgareddau rhaff feldringo, coedyddiaeth, ogofa, hwylio, balŵn awyr poeth, paragleidio, achub rhaffau,adeiladu, gwaith rhaff diwydiannol, glanhau ffenestri, achub dŵr gwyn, ac acrobateg. Maent wedi'u gwneud yn bennaf oddur acalwminiwm. Mae'r rhai a ddefnyddir mewn chwaraeon yn tueddu i fod yn ysgafnach na'r rhai a ddefnyddir ym myd masnach ac wrth achub gyda rhaffau. Yn aml yn cael eu galw'n glipiau-carabiner neu mini-biners, mae cylchau allweddi carabiner a chlipiau defnydd ysgafn eraill mewn steil a dyluniad tebyg hefyd wedi dod yn boblogaidd. Caiff y rhan fwyaf eu stampio â rhybudd “Ddim ar gyfer Dringo” neu rybudd tebyg oherwydd diffyg o ran profi llwythi a safonau diogelwch mewn gweithgynhyrchu. Er ei fod o safbwyntgeirdarddiadol, mae unrhyw ddolen fetel gyda gât sbring yn carabiner, mae'r defnydd llym yn y gymunedddringo yn cyfeirio'n benodol at y dyfeisiau hynny a weithgynhyrchir ac a brofwyd ar gyfer cludo llwythi mewn systemau sy'n hanfodol ar gyfer diogelwch fel dringo creigiau a mynyddoedd.

Defnyddio carabiner

Defnyddir carabiners arfalwnau aer poeth i gysylltu'r amlen â'r fasged ac maent wedi'u graddio ar 2.5 tunnell, 3 tunnell neu 4 tunnell.[3] Carabiners sydd hefyd yn bachu harnais y sawl sy'n paragleidio at linellau'r gleider.

Mae DMM International Ltd, yr unig gwmni sy'n gweithgynhyrchu carabiners yng ngwledydd Prydain, wedi'i leoli ynLlanberis, Gwynedd.[4]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. "Climbing Dictionary & Glossary".MountainDays.net. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2007-01-03. Cyrchwyd2006-12-05.
  2. "Online Etymology Dictionary".etymonline.com.
  3. "Cameron Balloons Maintenance Manual (refer to section 6.6.4)". Cyrchwyd2015-03-28.
  4. "DMM International Ltd".DMM International Ltd.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Carabiner&oldid=13431581"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp