Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Capel

Oddi ar Wicipedia
Capel
Enghraifft o:math o adeilad Edit this on Wikidata
Matheglwys, adeiladwaith pensaernïol Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Capel Gellimanwydd,Rhydaman.

Adeilad ar gyfer gwasanaethau crefyddolCristnogol ywCapel. Daw'r gair o'rLladincapella, bychanig y gaircappa, "mantell". Y cysylltiad yw mantellSant Martin o Tours (316 -397), a gedwid fel crair crefyddol, ac a roddodd yr enw i'r adeilad.

Yn yrEglwys Gatholig, defnyddir "capel" fel term am adeilad lle gellir gweinyddu'rofferen, ond nad yw'n eglwys y plwyf. Defnyddir y term hefyd am ystafell ochr mewneglwys. Yng Nghymru, dyma'r term arferol ar gyfer lle o addoliadYmneilltuol, a cheir nifer fawr ohonynt.

Adeiladwaith capeli

[golygu |golygu cod]

Y Gwaith Coed

[golygu |golygu cod]

Math o goed

[golygu |golygu cod]

Beth oedd tarddiad coed y to a choed y dodrefn mewn capeli? I ble daeth y deunydd crai? Oedd y coed yn wahanol mewn gwahanol enwadau. Dyma nodyn sy'n codi'r cwestiynau a chyflwyno'r pwnc, gan Wil Williams:

Pitch Pine (pinwydden pyg): Dyma lun Ronnie Jeffers[1] o'r pentra ‘ma [Bethel, Bodorgan], yn atic Capel MC Bethel. Mae Ronnie'n arbenigwr ar doi - wedi bod yn gweithio ar stad leol am hanner cant o flynyddoedd. Sbiwch ar faint coed y to!Pitch pine, siwr o fod. Sut yn y byd oeddan nhw'n cael y coed i'r safle i ddechra (o ystyried mai tua 3- 4 llath o hyd oedd trol) a sut oeddan nhw'n codi'r fath goed ar dop y walia sydd tua ugain troedfedd o uchder. Mae'r coed sydd yn rhedeg led y capel yn 9"x 15" a tua 40 troedfedd o hyd.

Ffawydd Melyn: Roedd y diweddar Arfon Prichard, Garndolbenmaen wastad yn cyfeirio at y "pitch pein" fel "ffawydd melyn": "ew, hen bren da. Eith y pry' ddim ar ei gyfyl" meddai.[angen ffynhonnell]

  • Fagus sylvatica ffawydden, ffawydd
  • Pinus palustris ffawydden felen, ffawydd melyn

Economi ac ymarferoldeb

[golygu |golygu cod]

A bwrw mai pinwydd pyg oedd prif ddeunydd adeiladwaith pren capeli a'u dodrefn, beth oedd y broses economaidd ac ymarferol rhwng de-ddwyrain yr UD a safle'r capel; o feddiannu'r coed ar eu traed yn ne Carolina, trwy eu cwympo a'u cludo, i'r cyrraedd a'u trin?

Pinus palustris ydipitch pine i ni, ondPinus rigido ydipitch pine yn Wikipedia, hefoPinus palustris yn cael ei alw ynlongleafe pine. Tybad faint sydd gan y Methodistiaid Calfinaidd i neud hefo mewnforio pitch pine i adeiladu eu capeli yn ystod y ddeunawfed ganrif? YnShips and Seamen of Anglesey 1558 - 1918 gan Aled Eames, ceir hanes y teulu Davies, Porthaethwy, yn mynd a pobl a llechi i Ogledd America a dwad a llwythi o goed yn ôl. Buasa'n ddiddorol cael gwybod os maipitch pine oedd y llwythi coed hynny.[2]

Soniodd 'Wyn Pen Lon', Niwbwrch, (saer da a gafodd ei brentisio gyda chriw cynnal y chadw Stad Bodorgan, cyn mentro dechrau busnes llwyddiannus fel saer hunan gyflogedig) fel hyn:

"Cafodd Plas Bodorgan ei ail adeiladu rhwng 1780 a 1784 - dechra y cyfnod o adeiladu capeli ? Roedd Wyn yn deallt i'r coed a ddefnyddwyd i adeiladu y plasdy wedi eu nofio ar hyd y Fenai, heibio Llanddwyn ac i aber Afon Cefni, o Borthaethwy i Bodorgan! Coed oedd rhain wedi eu mewnforio o Ogledd America i Borthaethwy gan y teulu Davies mae'n debyg".[3]

Y Gwaith Cerrig

[golygu |golygu cod]

Dyma ddisgrifiad cyfoes o'r gwaith gwirfoddol caled a wnaethpwyd i godi un capel yn Nhywyn Meirionnydd (boed nodweddiadol neu beidio):

"Pan benderfynnodd henaduriaid Eglwys Bethel, Tywyn adeiladu capel mwy ei faint yn 1871 "darfu i ffermwyr a chertwyr yr Eglwys gario y defnyddiau at ei adeiladu yn rhad ..... ac fe gododd Mr John Daniel, Caethle, a'i was yn fore fore er mwyn cael mynd â'r llwyth cyntaf at y deml newydd, ac aed i lan y môr am lwyth o gerrig ...... gan fod y llwyth yn drwm torrodd echel y drol a methwyd myned gam ymhellach, a daeth Mr Rowland Edward, y Vaenol, a'i lwyth heibio iddynt"[4][5]

Lleoedd

[golygu |golygu cod]

Ceir nifer o enwau lleoedd yng Nghymru gyda "Capel" ynddynt, er enghraifft

Ceir hefyd lawer o enwau beiblaidd ar bentrefi oedd yn wreiddiol yn enw ar gapel, er enghraifftBethesda.

Llyfryddiaeth

[golygu |golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. gwelerBwletin Llên Natur rhifyn 56, t. 3
  2. Wil Williams ym Mwletin Llên Natur rhifyn 56 (tudalen 3)
  3. Wil Williams (cys. pers. a D.W. Williams (1986),Canu Mawl i Deulu Bodorgan (llyfryn i nodi'r achlysur uchod gan y WEA)
  4. Jones, Meredith, 1929, Ychydig o Hanes Eglwys Bethel, Towyn. cyh. J. Wynne Williams
  5. GwelerDyddiadur Edward Edwards, Tywyn, Meirionnydd
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Capel&oldid=11025945"
Categorïau:
Gategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp