Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Canu gwlad

Oddi ar Wicipedia
Canu gwlad
Enghraifft o:genre gerddorol, radio format Edit this on Wikidata
Mathcerddoriaeth boblogaidd, music of North America Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1920 Edit this on Wikidata
Enw brodorolCountry music Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Math ogerddoriaeth boblogaidd ywcanu gwlad sydd â'i wreiddiau yn nhraddodiadbaledihillbillymynyddoedd yr Appalachians ynyr Unol Daleithiau. Dylanwad arall oedd y caneuoncowboi (felly'r enw SaesnegCountry and Western, er maiCountry Music neuCountry yw'r enw mwya ffasiynol heddiw). Mae gan ganu gwlad bwyslais ar leisiau mewn cytgord a geiriau sy'n adlewyrchu profiad y werin gyffredin. Yn aml mae'n sentimental iawn.

Sonnir heddiw am 'Ganu Gwlad Newydd' neuProgressive Country hefyd, wrth i genhedlaeth newydd chwilio am burdeb gwreiddiol y canu traddodiadol ar y naill law ac ar yr un pryd arbrofi efo thechnegau mwy diweddar, o fydroc er enghraifft.

Mae cerddorion canu gwlad yr "hen ysgol" yn cynnwysDolly Parton aLinda Ronstadt ac, i raddau,Emmylou Harris. Mae rhai o'r grwpiau diweddar yn cynnwysAlison Krauss acUnion Station, sydd wedi gwneud albymau gyda'i gilydd, a'rDixie Chicks â'i harmonis anhygoel.

Canu Gwlad a Chymru

[golygu |golygu cod]

Yng Nghymru mae'n debyg mai y cyntaf i ganu y math hyn o gerddoriaeth oeddAled a Reg ac yn ddiweddrachHogia Llandegai,Doreen Lewis,Traed Wadin, aTony ac Aloma. Mae canu gwlad yn dal yn boblogaidd iawn yng Nghymru gyda chantorion felJohn ac Alun,Wil Tân, Alister James, ac yn ddiweddar iawn Meinir Ann.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod amgerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Canu_gwlad&oldid=12487660"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp