Cannes |
 |
Math | cymuned,dinas  |
---|
|
Poblogaeth | 74,040  |
---|
Pennaeth llywodraeth | David Lisnard  |
---|
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2  |
---|
Gefeilldref/i | Kensington a Chelsea, Shizuoka, Madrid, Beverly Hills, Tel Aviv, Sanya, Acapulco, Papeete, Fflorens, Budapest, Saanen, Québec, Moscfa, Torino, Lviv  |
---|
Daearyddiaeth |
---|
Sir | arrondissement of Grasse,Alpes-Maritimes, canton of Cannes-Centre, canton of Cannes-Est, canton of Mandelieu-Cannes-Ouest  |
---|
Gwlad | Ffrainc |
---|
Arwynebedd | 19.62 km²  |
---|
Uwch y môr | 0 metr, 260 metr  |
---|
Yn ffinio gyda | Le Cannet, Mandelieu-la-Napoule, Mougins, La Roquette-sur-Siagne, Vallauris  |
---|
Cyfesurynnau | 43.5525°N 7.0214°E  |
---|
Cod post | 06400, 06150  |
---|
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Cannes  |
---|
Pennaeth y Llywodraeth | David Lisnard  |
---|
 |
|
|
Cymuned a thref yn neFfrainc ywCannes. Saif ar arfordir yCôte d'Azur, yndépartementAlpes-Maritimes. Roedd y boblogaeth yn1999 yn 72,400. Mae y traethau tywodlyd yma yn atyniad mawr i dwristiaid. Daw'r enw "Cannes" o enwFfrangeg yGawrgorsen (Arundo donax).
Pentref bychan yn dibynnu ar bysgota oedd Cannes hyd y19g, ond o tua1830 ymlaen dechreuodd dyfu'n gyflym wrth i ddosbarth uchaf ac yna ddosbarth canol Ffrainc ac ymwelwyr tramor, yn enwedig Saeson, ddechrau adeiladutai haf yn y cylch. Crëwyd y traethau tywodlyd yn fwriadol er mwyn denu ymwelwyr. CynhelirGŵyl Ffilmiau Cannes yma bob blwyddyn ers1946. Cynhelir yr ŵyl, ym mis Mai fel fel rheol, yn yPalais des Festivals et des Congrès.
Ceir diwydiannau yma heblaw twristiaeth; mae canolfan dechnoleg Sophia-Antipolis yncommuneValbonne yn y bryniau uwchben Cannes.