Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Camp David

Oddi ar Wicipedia
David Eisenhower, ŵyr yr Arlywydd Dwight D. Eisenhower, wrth arwydd Camp David ym 1960.
Camp David
Mathcanolfan filwrol, preswylfa swyddogol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlDavid Eisenhower Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1935 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolCatoctin Mountain Park Edit this on Wikidata
SirFrederick County Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,850 troedfedd, 564 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39.6483°N 77.4636°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganLlynges yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddCatoctin Mountain Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolNational Park Service rustic Edit this on Wikidata

Preswylfa wledigArlywydd yr Unol Daleithiau ywCamp David a leolir ym mryniau coediog Parc Mynydd Catoctin ynFrederick County, ger trefiThurmont acEmmitsburg, yn nhalaithMaryland,Unol Daleithiau America. Saif rhyw 62 milltir (100 km) i ogledd-orllewin y brifddinasWashington, D.C., lle mae preswylfa swyddogol yr arlywydd,y Tŷ Gwyn. Mae safle Camp David yn cwmpasu 200 erw (81 hectar) a amgylchynir gan ffensys o'r radd eithaf o ddiogelwch. Safle filwrol yw Camp David, dan awdurdodLlynges yr Unol Daleithiau, a'i enw swyddogol yw'r Naval Support Facility Thurmont. Fe'i gweinyddir gan Swyddfa Filwrol y Tŷ Gwyn. Daw'r mwyafrif o weithwyr Camp David o'r llynges, yn enwedig y Seabees a Chorfflu'r Peirianwyr Sifil, aChorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau.

Adeiladwyd y safle ym 1935–38 gan y Weinyddiaeth Brosiectau Gwaith (WPA), un o asiantaethau'rFargen Newydd, fel gwersyll i asiantau'rllywodraeth ffederal a'u teuluoedd. Sefydlwyd y breswylfa gan yr ArlywyddFranklin D. Roosevelt ym 1942 dan yr enw Shangri-La, enw'r paradwys ynNhibet yn y nofelLost Horizon (1933) gan James Hilton. Fe'i dynodwyd yn breswylfa wledig swyddogol yr arlywydd ganHarry S. Truman ym 1945. Ailenwyd y safle ganDwight D. Eisenhower yn Camp David, ar ôl ei ŵyr, ym 1953. Mae Camp David yn cynnwys ystafelloedd i'r arlywydd a'i deulu a swyddfa iddo,pwll nofio, a neuadd gyfarfod.[1] Yn ystod ei hanes mae wedi cynnal nifer o gyfarfodydd pwysig rhwng yr arlywydd ac arweinwyr gwledydd eraill, gan gynnwys ymweliadNikita Khrushchev, arweinyddyr Undeb Sofietaidd, yn ystod arlywyddiaeth Eisenhower ym 1959; y trafodaethau dan wahoddiad yr ArlywyddJimmy Carter ar gyfer Cytundebau Camp David ym 1978 a arwyddwyd ganAnwar Sadat, Arlywyddyr Aifft, aMenachem Begin, Prif WeinidogIsrael; y gynhadledd rhwng yr ArlywyddBill Clinton,Ehud Barak, Prif Weinidog Israel, acYasser Arafat, ArlywyddAwdurdod Cenedlaethol Palesteina, yn 2000; a38ain Uwchgynhadledd yr G8 yn 2012.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. (Saesneg) Camp David. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Mehefin 2021.

Darllen pellach

[golygu |golygu cod]
  • Michael Giorgione,Inside Camp David: The Private World of the Presidential Retreat (Efrog Newydd: Little, Brown & Co., 2017).
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Camp_David&oldid=11043085"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp