O tua'r flwyddyn814, gyda darganfyddiad gweddillion yr apostol yn Santiago, a chyda chefnogaethSiarlymaen, tyfodd Santiago yn gyrchfan boblogaidd dros ben i bererinion ar draws Ewrop. O'r11g ymlaen, Santiago de Compostela oedd y gyrchfan bwysicaf ibererinion ar ôlJeriwsalem aRhufain. Mae'n parhau'n boblogaidd iawn hyd heddiw, yn enwedig y rhan o'rcamino francés, "ffordd y Ffrancwyr", sy'n arwain oRoncesvalles ynNavarra ar draws gogledd Sbaen i Santiago de Compostela.