Mae'rcalendr Hebreaidd (הלוח העבריha'luach ha'ivri), neu'rcalendr Iddewig, yngalendr lloerheulol a gaiff ei ddefnyddio heddiw fel arfer mewn cysylltiad â chysyniadau crefyddol. Defnyddir ycalendr hwn i bennu gwyliau Iddewig a pha bryd y darllenir yTorah yn gyhoeddus a dyddiadauyahrzeits pan gofir am farwolaeth perthynas. YnIsrael, mae'n galendr swyddogol a ddefnyddir at bwrpas dinesig a hyd yn oed fel canllaw amser ar gyfer amaethu.
Daw enwau'r misoedd a geir yn y calendr Hebreaidd oFabilon yn wreiddiol. Dechreuodd yr Iddewon eu defnyddio yn ystod eu halltudiaeth yn 6g cyn Crist.
- ניסן (Nisan)
- אייר (Iyar)
- שיון (Sifan)
- טמוז (Tamws)
- אב (Af)
- אלול (Elwl)
- תשרי (Tishrei)
- מרחשון (Marcheshfan)
- כסלו (Cislef)
- טבת (Tefet)
- שבט (Shfat)
- אדר (Adar; Adar I ac Adar II mewn blwyddyn naid)
Y cyfnod a ddefnyddir ar gyfer y calendr Hebreiadd ers yr Oesoedd Canol ywAnno Mundi (Lladin: "ym mlwyddyn y byd";Hebraeg: לבריאת העולם , "o greadigaeth y byd"). Cyfnod yr oes hon yw'r foment pan grëwyd y byd, yn ôlLlyfr Genesis. Felly mae rhif y flwyddyn yn 3760 neu 3761 yn fwy na'r flwyddyn gyfatebol yngnghalendr Gregori.
Yn yr un modd agAnno Domini (AD), dylai'r geiriau neu'r talfyriad ar gyferAnno Mundi (AM) ragflaenu'r dyddiad yn iawn yn hytrach na'i ddilyn.
Mae blwyddyn safonol yn y calendr hwn yn cynnwys 12 mis; chwe mis â 29 diwrnod, a chwe mis â 30 diwrnod, gan wneud cyfanswm o 354 diwrnod. Mae hyn oherwydd bod y misoedd yn cael eu cyfrif yn ôl cylchro'r lleuad, sef tua 29.5 diwrnod. Fodd bynnag, mewn blynyddoedd naid gall y flwyddyn fod â 353 neu 355 o ddiwrnodau. Felly dechreuodd AM 5783 ar fachlud haul 25 Medi 2022 a bydd yn dod i ben ar fachlud haul ar 15 Medi 2023.