![]() | |
Math | tref,cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,243 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.246°N 3.307°W ![]() |
Cod SYG | W04000183 ![]() |
Cod OS | SJ128729 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au y DU | Becky Gittins (Llafur) |
![]() | |
Tref fechan achymuned ynSir y Fflint,Cymru, ywCaerwys.[1][2] Saif 8 km (5 milltir) i'r de-orllewin oDreffynnon. Yng Nghyfrifiad 2001 roedd y boblogaeth yn 1,315.
Cynrychiolir yr ardal hon ynSenedd Cymru ganHannah Blythyn (Llafur)[3] ac ynSenedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[4]
Credai rhai archaeolegwyr a hynafiaethwyr fod y dref yn sefyll ar safle hengaer RufeinigVaris, ond erbyn heddiw credir mai gerLlanelwy oedd y safle. Mae enw'r dref yn golygu "caer y gwysiau", ac efallai'n deillio o'r ffaith fod llys yn cael ei chynnal yno hyd y16g.
Cynhaliwyd dwyeisteddfod bwysig yngNghaerwys yn1523 a1567 i bennu rheolauCerdd Dafod aCherdd Dant ac i roi trefn arfeirdd a chantorion. Roedd nifer o feirdd gorau'r cyfnod, felTudur Aled,Simwnt Fychan aGruffudd Hiraethog, yn bresennol. (Am fanylion pellach gweler:Eisteddfod Caerwys 1523 acEisteddfod Caerwys 1567).
Mae cysylltiad agos rhwng Caerwys âPhiladelphia. Hwyliodd meddyg lleol,Thomas Wynne, mewn llong o'r enwWelcome yn 1682 gydaWilliam Penn. Roedd Wynne yn un o sefydlwyr Philadelphia a daeth yn gadeirydd (neu 'Siaradwr') cyntaf y cynulliad cenedlaethol yno yn ogystal â bod yn farnwr rhanbarthol. Seiliwyd cynllun stryd gwreiddiol Philadelphia ar Gaerwys.[5] Mae enwau Cymraeg i'w gweld ym mhobman yno, ac mae llawer o'r adeiladau yn gopiau o adeiladau a geir yng Nghaerwys.[6]
Er nad yw'r eglwys bresennol yn hen iawn nid yw heb ddiddordeb. Fe'i cysegrir iFihangel Sant. Mae'r bedyddfaen yn dyddio o1661 a cheir sgriniau pren hynafol yng nghapel y gogledd. Un o'r creiriau mwyaf diddorol yw clawr arch garreg ac arno ffigwr cerfiedig gwraig, sydd efallai i'w dyddio i'r13g. Yn ôl traddodiad lleol, claddwydElizabeth Ferrers, sef gwraig iDafydd ap Gruffudd, yn yr eglwys.
Yngnghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Caerwys (pob oed) (1,283) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Caerwys) (240) | 19.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Caerwys) (729) | 56.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Caerwys) (184) | 32.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Trefi
Bagillt ·Bwcle ·Caerwys ·Cei Connah ·Y Fflint ·Queensferry ·Saltney ·Shotton ·Treffynnon ·Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu ·Afon-wen ·Babell ·Bretton ·Brychdyn ·Brynffordd ·Caergwrle ·Carmel ·Cefn-y-bedd ·Cilcain ·Coed-llai ·Coed-talon ·Cymau ·Chwitffordd ·Ewlo ·Ffrith ·Ffynnongroyw ·Gorsedd ·Gronant ·Gwaenysgor ·Gwernymynydd ·Gwernaffield ·Gwesbyr ·Helygain ·Higher Kinnerton ·Yr Hôb ·Licswm ·Llanasa ·Llaneurgain ·Llanfynydd ·Llannerch-y-môr ·Maes-glas ·Mancot ·Mostyn ·Mynydd Isa ·Mynydd-y-Fflint ·Nannerch ·Nercwys ·Neuadd Llaneurgain ·Oakenholt ·Pantasaph ·Pant-y-mwyn ·Penarlâg ·Pentre Helygain ·Pen-y-ffordd ·Pontblyddyn ·Pontybotgyn ·Rhes-y-cae ·Rhosesmor ·Rhyd Talog ·Rhyd-y-mwyn ·Sandycroft ·Sealand ·Sychdyn ·Talacre ·Trelawnyd ·Trelogan ·Treuddyn ·Ysgeifiog