MaeLlwybr Arfordirol Ynys Môn yn cychwyn ac yn gorffen yn y dref. Mae yna bont droed fodern yn cysylltu'r porthladd gyda'r gyda'r dref. Mae yna lawer o fwytai fel Standing Stones,KFC,McDonalds, a Jambos Chinese. Yn ogystal, mae yno lawer o siopau felTesco, Poundland, Wilkos, Pets at Home, New Look a Cancer Research wedi'u lleoli yn y dref.
Mae olion yn dyddio o 2000 CC ar gopa Caer y Twr gyda nifer oGytiau Gwyddelod ar y llethrau deheuol. Mae'n amlwg bod masnach aur abwyaill cerrig rhwng Prydain ac Iwerddon.
Roeddcaer RufeinigCaer Gybi ar y safle yma o ddiwedd y 3g. Bellach, mae eglwys y plwyf a'i mynwent ar safle'r gaer, ond mae'r muriau'n dal i sefyll hyd at uchder o bedair medr. Cafodd yr eglwys ei adeiladu yn yr 1960au. Credir bod y gaer yma at ddefnydd llynges Rufeinig. Ym muchedd SantCybi mae cyfeiriad at freninGwynedd,Maelgwn Gwynedd, yn rhoi'r tir yma iddo i adeiladu mynachlog.
Cryfhaodd y ffordd bost a adeiladwyd ganThomas Telford oLundain safle Caergybi fel y porthladd yr anfonwyd y Post Brenhinol ohono i Ddulyn ac oddi yno ar goets fawr y Post. Daw’r A5 i ben yn Admiralty Arch (1822–24), a ddyluniwyd gan Thomas Harrison i goffau ymweliad gan yBrenin Siôr IV ym 1821 ar y ffordd i Iwerddon ac mae’n nodi anterth gweithrediadau coetsis Irish Mail. Mae Ynys Gybi a Môn yn cael eu gwahanu gan yCulfor Cymyran a arferai gael ei chroesi ar yBontrhydybont; a elwid felly, oherwydd bod y bont 4 milltir (6 cilometr) o Gaergybi ar yr hen dyrpeg.
Morglawdd Caergybi yw’r hiraf yn y DU ac fe’i hadeiladwyd i greu harbwr diogel i longau a ddaliwyd mewn dyfroedd stormus ar eu ffordd iLerpwl a phorthladdoedd diwydiannolSwydd Gaerhirfryn. Mae treftadaeth fôr Caergybi yn cael ei chofio mewn amgueddfa forwrol. Adeiladwyd rhwng 1845 – 73 yn defnyddio cerrig o chwareli Caergybi aMoelfre.)
Ar benMynydd Twr adeiladodd y Rhufeiniaid ygoleudy cyntaf yn yr ardal. Heddiw, nid oes ond y seiliau i'w gweld. Mae goleudai newydd yn gweithio arYnys Lawd (wrth y mynydd), trwyn y morglawdd (yn y porthladd),Ynys Halen (yn y porthladd) acYnysoedd y Moelrhoniaid yn bellach allan yn y môr, i'r gogledd.
Mae'r gofeb hon yn coffau'r awyrenwyr Americanaidd a fu farw ar ôl i'w hawyren fynd i drafferthion gerllaw yma yn yr Ail Ryfel Byd.[1]
Dadorchuddiwyd y gofeb yn 1993 gan Iredell Hutton oOgledd Carolina. Ef oedd cynnwr cefn rheolaidd Y Jigs Up. Roedd y criw arferol wedi newid i awyren wahanol ar 22 Rhagfyr 1944. Mae gweddillion yr awyren yn Lle Gwarchodedig. Daethpwyd o hyd i ddau o’r llafnau gwthio o wely’r môr yn 1992. Mae un wedi’i harddangos ar y gofeb (sy’n cynnwys enw’r peilot). Mae'r llall yn amgueddfa filwrolFort Fisher, Gogledd Carolina.
Mae cwmnïau fferi yn rhedeg gwasanaethau rheolaidd rhwng Caergybi aDulyn aDún Laoghaire ynIwerddon. Ceir nifer o fysus yn rhedeg yn ardal Caergybi sy'n ei chysylltu â llefydd eraill ar yr ynys. Y pwysicaf yw'r gwasanaethau iFangor aLlangefni. Mae'rA55 yn dechrau yn y dref. Fel yrE22 Ewropeaidd mae'n cysylltu Caergybi agEkaterinburg ynRwsia.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.