![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1102°N 3.0406°W ![]() |
Cod OS | SJ303575 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jack Sargeant (Llafur) |
AS/au y DU | Mark Tami (Llafur) |
![]() | |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Pentref yngnghymunedYr Hôb,Sir y Fflint,Cymru, ywCaergwrle[1][2] ( ynganiad ).
Daw'r enw ocaer + yr enw lle coll *Corley' sydd yn golygu 'dôl y garan' mewnHen Saesneg.[3] Mae hyn yn parhau yn yr yngangiad Saesneg o'r lle. Fe'i lleolir ar ffordd yrA541, tua 5-6 milltir i'r gogledd oWrecsam, ac mae'n cyffwrdd â'r pentref agosaf,Abermorddu. Mae'n gorwedd wrth droed Mynydd yr Hob (sy'n fryn isel yn hytrach na mynydd go iawn).
Saif Caergwrle ar lannauAfon Alun. Gerllaw ceiradfeilion castell Cymreig a godwyd gan y tywysogDafydd ap Gruffudd, brawdLlywelyn Ein Llyw Olaf, ar dir a roddwyd iddo ganEdward I o Loegr ar ôl ei gyrch cyntaf ar Gymru yn1277. Yn y pentref ceir pont ceffylau pynnau sy'n dyddio i'r17g, y dywedir bod ysbryd yn aflonyddu yno; bu bron iddi gael ei dinistrio gan lifogydd yn 2000, ond mae wedi cael ei thrwsio ers hynny.
Mae gan Caergwrle gysylltiad cryf â phentrefYr Hob. Mae ganddo orsaf trenau ar Reilffordd y Gororau, sy'n ei gysylltu â Wrecsam aLerpwl. Ceir bysus yn rhedeg i'rWyddgrug aChaer.
Cynrychiolir yr ardal hon ynSenedd Cymru ganJack Sargeant (Llafur)[4] ac ynSenedd y DU ganMark Tami (Llafur).[5]
Trefi
Bagillt ·Bwcle ·Caerwys ·Cei Connah ·Y Fflint ·Queensferry ·Saltney ·Shotton ·Treffynnon ·Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu ·Afon-wen ·Babell ·Bretton ·Brychdyn ·Brynffordd ·Caergwrle ·Carmel ·Cefn-y-bedd ·Cilcain ·Coed-llai ·Coed-talon ·Cymau ·Chwitffordd ·Ewlo ·Ffrith ·Ffynnongroyw ·Gorsedd ·Gronant ·Gwaenysgor ·Gwernymynydd ·Gwernaffield ·Gwesbyr ·Helygain ·Higher Kinnerton ·Yr Hôb ·Licswm ·Llanasa ·Llaneurgain ·Llanfynydd ·Llannerch-y-môr ·Maes-glas ·Mancot ·Mostyn ·Mynydd Isa ·Mynydd-y-Fflint ·Nannerch ·Nercwys ·Neuadd Llaneurgain ·Oakenholt ·Pantasaph ·Pant-y-mwyn ·Penarlâg ·Pentre Helygain ·Pen-y-ffordd ·Pontblyddyn ·Pontybotgyn ·Rhes-y-cae ·Rhosesmor ·Rhyd Talog ·Rhyd-y-mwyn ·Sandycroft ·Sealand ·Sychdyn ·Talacre ·Trelawnyd ·Trelogan ·Treuddyn ·Ysgeifiog