Dinas ynAsia Leiaf (Twrci heddiw) oeddCaerdroea (Hen Roeg:Τροία,Troia, hefydΊλιον,Ilion;Lladin:Trōia neuĪlium,Hetheg:Wilusa neuTruwisa). Hefyd: 'Caerdroia', 'Caer Droea', 'Caer Droia'. Y ffynhonnell fwyaf adnabyddus ar gyfer hanes y ddinas yw'rIliad, a briodolir iHomeros, sy'n adrodd hanes rhan oRyfel Caerdroea, pan mae byddin Roegaidd yn gwarchae ar y ddinas. Yn ddiweddarach, adeiladwyd dinas RufeinigIlium ar y safle yn nheyrnasiad yr ymerawdwrAugustus.
Yn y 1870au, bu'r archaeolegydd AlmaenigHeinrich Schliemann yn cloddio yma, a darganfu olion nifer o ddinasoedd o wahanol gyfnodau ar y safle, un ar ben y llall. Credai ef mai'r ddinas a enwyd yn Troia VII oedd y ddinas yn yrIliad.
Er nad oes unrhyw gysylltiad uniongyrchol rhwng y Gaerdroea hanesyddol a Chymru, diolch i ddylanwad gwaithSieffre o Fynwy mae ganddi le pwysig ynhanes traddodiadol Cymru. Yn ôl Sieffre, o Gaerdroea y daeth yr arwrBrutus a'i ddilynwyr iYnys Brydain. Yn yr Oesoedd Canol Diweddar, arweiniodd hynny at y gred fod yCymry yn etifeddion Caerdroea a cheir sawl cyfeiriad ati yn yCanu Darogan. Fel yn achos sawl diwylliant Ewropeaidd arall yn yr Oesoedd Canol, daethElen o Gaerdroea yn symbol o harddwch benywaidd yng ngwaith y beirdd, yn enwedig yn achosBeirdd yr Uchelwyr.
Mae 'Caerdroea' (hefyd 'Caer Droea' a 'Caer Dro') yn enw Cymraeg am fath olabrinth gwerinol hefyd. Ceir cyfeiriadau o'r 16g at fugeiliaid yn dawnsio mewn 'caerdroeau' ar y bryniau: camddeall ystyr yr elfentroea, gan ei derbyn fel ffurf ar y gair 'tro'/'troi' sy'n gyfrifol am yr enw, mae'n debyg.[1]
Defnyddiwyd y ffurf "Caerdroia" yn ddiweddar ar gyfres o ffilmiau, llyfrau a thapiau sainDr Who (BBC Cymru).