Daw o'r gair Saesnegkhaki, sydd yn dod o'r gairHindi-Wrdwkhākī, sef "llychlyd".[4] Rhoddwyd yr enw ar frethyncotwm caerog[4] a gyflwynodd Syr Harry Burnett Lumsden a William Stephen Raikes Hodson ar gyfer lluoeddy Fyddin Brydeinig yn India ym 1848, a chydnabwyd yn addas iawn ar gyfergwasanaeth yn y maes a'rmaes brwydro. WediGwrthryfel India 1857, daeth yn lliw swyddogol ar gyfer gwisgoedd lluoedd brodorol a threfedigaethol y Prydeinwyr yn India. Yn hwyrach cafodd caci ei fabwysiadu mewn rhannau eraill o'rYmerodraeth Brydeinig, a gan wledydd eraill. Nid oedd caci cotwm yn addas i hinsawddDe Affrica yn ystodAil Ryfel y Boer, felly cyflwynwyd sers gwlân neuwstid. Rhoddwyd arlliwolewydd yn ystody Rhyfel Byd Cyntaf i guddio'n well yn erbyn y ddaear a deiliant.[3]