Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

CBAC

Oddi ar Wicipedia
CBAC


PencadlysCaerdydd
Sefydlwyd1948
LleoliadCymru,Lloegr, aGogledd Iwerddon
Gwefanhttp://www.cbac.co.uk

MaeCBAC (fe'i galwyd ynCyd-bwyllgor Addysg Cymru tan 2007) yn fwrdd arholi sy'n darparu arholiadau, asesiadau, datblygiad proffesiynol, adnoddau addysgol, cefnogaeth i oedolion sy'n dysgu'rGymraeg, a mynedfeydd i weithgareddau celfyddydol ieuenctid. Yn draddodiadol, mae e wedi gwasanaethuCymru, ond yn awr yn darparu arholiadau iLoegr aGogledd Iwerddon hefyd.

Ym Medi 2018, bydd golygu Wicipedia Cymraeg yn un o heriau swyddogol y Fagloriaeth Gymreig; cyflwynwyd y briff gan Wici Môn ac fe'i derbyniwyd yn swyddogol gan CBAC yn Rhagfyr 2017.[1]

Hanes

[golygu |golygu cod]

Sefydlwyd CBAC ym 1948. Mae'nelusen gofrestredig, yngwmni a gyfyngir gan warant, ac yn perthyn i 22awdurdod lleol Cymru. Mae is-gwmni, sef WJEC CBAC Services Ltd, yn darparu gwasanaethau argraffu a chyhoeddi arbenigol.

Cyfrifoldebau

[golygu |golygu cod]

Cymwysterau

[golygu |golygu cod]

Mae CBAC yn cynnig ystod o gymwysterau, yn bynciau traddodiadol, academaidd a rhai mwy galwedigaethol eu natur, yn Lefel Mynediad, TGAU, Lefel Uwch a Sgiliau Allweddol.

Yn 2007, ar ôl peilot o dair blynedd, daethBagloriaeth Cymru yn rhan o bortffolio CBAC. Bydd y cymhwyster ar gael yn gynyddol i ysgolion yng Nghymru ar lefelau canolradd ac uwch. Mae'r Fagloriaeth, neu'rBac Cymreig fel y'i gelwir hefyd, yn cynnig rhaglen sy'n cynnwys gweithio gyda chyflogwyr, gweithgareddau yn y gymuned, ymchwiliad personol a sgiliau allweddol, yn ogystal ag astudiaethauTGAU,GNVQ neuLefel Uwch.

Mae CBAC yn darparu cyfres o arholiadau arbennig ar gyfer oedolion sy'n dymuno dysgu Cymraeg.

Datblygiad Proffesiynol

[golygu |golygu cod]

Mae CBAC yn trefnu rhaglen o ddatblygiad proffesiynol gyda'u harbenigwyr pwnc a'u Prif neu Uwch Arholwyr. Darperir hyfforddiant mewn swydd mewn gwestai a chanolfannau cynadledda ledled Cymru a Lloegr. Mae CBAC hefyd yn trefnu cyrsiau yn arbennig ar gyfer athrawon y Gymraeg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, ac ar gyfer athrawon sy'n dysgu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r gwasanaeth yma ar gael drwy Gynllun Cenedlaethol HMS (Hyfforddiant Mewn Swydd) Cymru.

Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru

[golygu |golygu cod]

CBAC sy'n rheoli'rGrid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru (GCaD), sy'n darparu adnoddau ar-lein rhad ac am ddim yn Gymraeg a Saesneg trwy ei wefan ryngweithiol.

Celfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru

[golygu |golygu cod]

Fel rhan o gytundeb rhwng CBAC ac awdurdodau lleol Cymru, mae CBAC yn rheoliCerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru aTheatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Mae'r ddau gwmni hyn yn rhan oGelfyddydau Ieuenctid Cymru, a gefnogir gan CBAC mewn partneriaeth âFfederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru.

Hygrededd

[golygu |golygu cod]

Yn Rhagfyr 2011, ataliwyd Paul Jones, un o Brif Arholwr hanes CBAC o'i waith am iddo gael ei ffilmio'n rhoi gwybod i athrawon beth oedd cynnwys y papur. Gwnaed hyn tra bod CBAC yn ymchwilio i mewn i gyhuddiadau gan yTelegraph. Dywedodd ar ffilm i'r athrawon:We're cheating, we're telling you the cycle. Probably the Regulator would tell us off. Ffilmiwyd Paul Barnes hefyd gan y Telegraph ar yr un cwrs yn datgelu cynnwys peth o'r papur arholiad i'r athrawon a oedd yn talu dros £200 yr un am y cwrs.[2][3]

Dywedodd Geoff Lucas, cyn-gynorthwyydd Prif Weithredwr QCA, corff sy'n rheoleiddio cyrff arholi megis CBAC, "Part of me was shocked to hear words such as "We're cheating"...it's quite shocking." Galwodd Michael Gove, yr Ysgrifennydd dros Addysg yn Lloegr, am ymchwiliad i mewn i'r sefyllfa.

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Gwefan cbac.co.uk;[dolen farw] adalwyd 26 Medi 2018.
  2. (Saesneg) CBAC (8 Rhagfyr 2011). Daily Telegraph investigations. CBAC. Adalwyd ar Tachwedd 16, 2011.
  3. (Saesneg) The Telegraph (8 Rhagfyr). Exam boards: two examiners suspended after 'cheating' claims. The Telegraph. Adalwyd ar Tachwedd 16, 2011.
Eginyn erthygl sydd uchod amGymru. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Pynciau
Sefydliadau
Undebau
Cyllid
Byrddau arholi
Hanesyddol
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=CBAC&oldid=11853678"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp