| Enghraifft o: | talaith hanesyddol yn Ffrainc |
|---|---|
![]() | |
| Dynodwyr | |

MaeBwrgwyn neuByrgwyn yn y Canoloesoedd (Ffrangeg:Bourgogne,Saesneg:Burgundy) yn rhanbarth hanesyddol sy'n gorwedd yn fras rhwngAfon Rhône acAfon Saone ac o'u gwmpas; mae'r rhan fwyaf o'r afon ynFfrainc, ond mae rhan yny Swistir.
Y pwynt uchaf ym Mwrgwyn yw brynHaut-Folin (901m) yn yMorvan.Y prif ddinasoedd ywDijon,Arles,Besançon aVienne.
MaeCamlas Bwrgwyn yn cysylltuAfon Yonne agAfon Saône, ac yn caniatau i gychod fynd o ogledd Ffrainc i'r de. Dechreuwyd arni yn1765 ac fe'i cwblhawyd yn1832. Ar ei phwynt uchaf ceir twnnel 3.333 km sy'n rhedeg mewn llinell syth. Hyd y gamlas yw 242 km, gyda 209 loc. Mae'n rhedeg trwy ddwy o siroedd Bwrgwyn,Yonne aCote d'Or.
Mae hanes y rhanbarth yn hir a chymhleth. Mewn gwirionedd ceir mwy nag un Fwrgwyn.
Daeth y Fwrgwyn gyntaf i fodolaeth tua dechrau'r6g a phasiodd dan reolaethy Merofingiaid. Tyfodd yr ail Fwrgwndi dan eu rheolaeth i ymestyn hyd at lannau yMôr Canoldir. Cafodd y diriogaeth ei dwyn ganSiarlymaen yn771. Ymrhanodd yr ardal yn ddwy ddugiaeth am gyfnod.
Daeth teyrnas Bwrgwyn arall i fodolaeth pan unwyd y ddwy ran o'r hen Fwrgwyn ynyr Oesoedd Canol, a choronwydConrad II yn frenin arni yn933. Parhaodd y deyrnas hyd1032, pan aeth yn rhan o'rAlmaen. Ei phrifddinas oedd Arles.
RoeddFranche Comté yn ffurfio Bwrgwyn arall a elwid "Swydd Rydd Bwrgwyn".Besançon oedd ei phrifddinas, a daeth yn rhan o deyrnas Ffrainc yn1679.
Ond y Fwrgwyn bwysicaf oeddDugiaeth Bwrgwyn, a barhaodd o1032 hyd1482 ac a chwareuodd ran bwysig iawn yn hanes Ffrainc. Roedd yn rhan o deyrnas Ffrainc, yn swyddogol, ond roedd ei dugiaid, a feddaiFflandrys hefyd am gyfnod hir, yn ymddwyn fel brenhinoedd annibynnol. Roedd hynny'n arbennig o wir amCharles le Téméraire ("Siarl Eofn":1433-1477), ond yn sgîl ei farwolaeth yn 1477 llwyddodd brenin Ffrainc i gipio'r rhan fwyaf o Fwrgwyn a rhwng hynny a1789 roedd yn dalaith oddi fewn i Ffrainc.
Heddiw, mae'r rhan fwyaf o ardal hanesyddol Bwrgwyn i'w chael ynrhanbarth gweinyddol (région)Bourgogne-Franche-Comté.
Twristiaeth a gwinllannoedd yw prif ddiwydiannau Bwrgwyn, yn arbennig yng nghefn gwlad. Mae'n enwog am ei gwin. Daw'r rhai gorau o'rCôte d'Or; maeBeaujolais,Chablis,Côte Chalonnaise, andMâcon hefyd yn winoedd Bwrgwynaidd. Mae bwydydd enwog yr ardal yn cynnwyscoq au vina boeuf bourguignon. Daw mwstard Dijon a mwstard Poupon Llwyd o Dijon.