Iaith Slafeg Ddeheuol ywBwlgareg. Heddiw iaith swyddogolBwlgaria yw hi, ac, yn ôlcyfrifiad Bwlgaria 2001, mae 6,697,158 o bobl yn siarad Bwlgareg fel mamiaith ym Mwlgaria (84.5% o'r boblogaeth). Ceir lleiafrifoedd Bwlgareg eu hiaith ynWcrain,Gwlad Groeg,Twrci ac yn gyffredinol dros wledydd y Balcanau. Mae cyfanswm o 8–9 miliwn o bobl yn ei siarad. Ysgrifennir Bwlgareg â'rwyddor Gyrilig. Mae cyfnodion yr iaith yn dyddio i'r9g, pan gynhyrchiwyd nifer olawysgrifau ym Mwlgaria ynHen Slafoneg Eglwysig, iaith lenyddol gyntaf ySlafiaid, wedi'i seilio ar dafodieithoedd SlafegMacedonia a Bwlgaria. Parhaodd traddodiad llenyddol llewyrchus yn yr iaith yn y cyfnodBwlgareg Canol (12g – 15g), ond dirywiodd ei statws yn ystod rheolaeth yr Otomaniaid. Crëwyd iaith safonol newydd yn y 14g fel rhan o ddiwygiad cenedlaethol Bwlgaria. Mae'r iaith gyfoes yn wahanol iawn i Hen Slafoneg Eglwysig. Mae wedi colli'r system gymhleth ogyflyrau enwol oedd gan yr iaith honno, ac wedi profi nifer o gyfnewidiadau fel rhan oardal ieithyddol y Balcanau sydd wedi dod â hi'n nes yn ei strwythur at ieithoedd o grwpiau eraill megisGroeg,Albaneg,Rwmaneg aThyrceg.
Defnyddir amrywiaeth ar yr wyddor Gyrilig i ysgrifennu Bwlgareg. Yr wyddor gyfoes (a gwerthoeddIPA y llythrennau) yw:
А а /a/
Б б /b/
В в /v/
Г г /g/
Д д /d/
Е е /ɛ/
Ж ж /ʒ/
З з /z/
И и /i/
Й й /j/
К к /k/
Л л /l/
М м /m/
Н н /n/
О о /ɔ/
П п /p/
Р р /r/
С с /s/
Т т /t/
У у /u/
Ф ф /f/
Х х /x/
Ц ц /ʦ/
Ч ч /tʃ/
Ш ш /ʃ/
Щ щ /ʃt/
Ъ ъ /ɤ̞/, /ə/
Ь ь /◌ʲ/
Ю ю /ju/
Я я /ja/
Cyndiwygiad orgraffol 1945, defnyddid dwy lythyren ychwanegol, yat (Ѣ ѣ) /æː/ a yus fawr (Ѫ ѫ) /ɔ̃/. Defnyddid yus fawr i gyfleu'r un sain,schwa /ə/, â Ъ ъ. Defnyddir yat i gyfleu /a/ neu /e/ yn ôl ei safle yn y gair.