Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Bukovyna

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd oBukovina)
Bukovyna
Map o Bukovyna (oren) o fewn ffiniau presennol Rwmania ac Wcráin.
Mathrhanbarth, Ukrainian historical regions, Historical regions of Romania Edit this on Wikidata
PrifddinasChernivtsi Edit this on Wikidata
Poblogaeth6,870, 800,098 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Rwmania Rwmania
Baner Wcráin Wcráin
Cyfesurynnau48°N 26°E Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd gany Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd Edit this on Wikidata

Rhanbarth hanesyddol ynNwyrain Ewrop ywBukovyna (Wcreineg: Буковина,Rwmaneg:Bucovina,Pwyleg:Bukowina,Almaeneg:Bukowina neuBuchenland) a leolir yng ngogledd-dwyrainMynyddoedd Carpathia, ar y ffin rhwngWcráin aRwmania.

Hanes

[golygu |golygu cod]

Ynyr Oesoedd Canol, gwladychwyd yr ardal gan Foldafiaid (Rwmaniaid) aRwtheniaid, a daeth dan reolaethTywysogaeth Moldafia yn y 14g. BuSuceava, yn ne'r ardal, yn brifddinas Moldafia o'r 14g hyd at ganol yr 16g, pryd ddaeth Moldafia ynddarostyngedig i'rYmerodraeth Otomanaidd.

Ym 1774 ildiodd yr Otomaniaid y diriogaeth i'rFrenhiniaeth Hapsbwrgaidd. Cafodd Bukowina, neu Buchenland, ei gweinyddu fel ardal filwrol nes iddi gael ei hymgorffori ym 1786 yn rhan oDeyrnas Galisia a Lodomeria—un o diroedd coronog y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd (Ymerodraeth Awstria wedi 1804)—fel Dosbarth Bukowina neu Ddosbarth Czernowitz. Ym 1849, dyrchafwyd y rhanbarth yn Ddugiaeth Bukowina, a ddatganwyd yn un o diroedd coronogCisleithania ynAwstria-Hwngari (1867–1918). Câi Bukovyna ei hystyried yn rhanbarth strategol bwysig ar y ffordd drwy Fynyddoedd Carpathia o Galisia iDransylfania, ac aeth yr Awstriaid ati i ddatblygu'r brif ddinas, Czernowitz (bellachChernivtsi, Wcráin), yn ganolfan fasnach ac addysg. Ymdrechodd yr Awstriaid i gadw'r heddwch rhwng y Rwtheniaid, neuWcreiniaid, yn y gogledd a'r Rwmaniaid yn y de, a'r lleiafrifoedd ethnig—Almaenwyr,Pwyliaid, acIddewon—yn yr ardaloedd trefol.[1]

Wedi iDywysogaeth Rwmania sicrhau ei hannibyniaeth oddi ar yr Ymerodraeth Otomanaidd ym 1878, ceisiodd am gyfeddiannu Bukovyna, gan ddadlau bod y rhanbarth yn darddle hanesyddol Tywysogaeth Moldafia ac felly yn rhan annatod ofamwlad y Rwmaniaid. Yn sgil cwymp Awstria-Hwngari ar ddiweddy Rhyfel Byd Cyntaf ym 1918, meddiannwyd Bukovyna gan luoeddTeyrnas Rwmania. Er i rai o'r boblogaeth Wcreinaidd geisio ymgorffori eu hardaloedd yn y gogledd yn rhan oWeriniaeth Pobl Gorllewin Wcráin, llwyddodd Rwmania i ennill rheolaeth dros yr holl ranbarth yn ôlCytundeb Saint-Germain (1919). Yny cyfnod rhwng y rhyfeloedd, gorfododd y llywodraeth bolisi o Rwmaneiddio'r rhanbarth, gan gynnwys gwahardd yr iaith Wcreineg a'i diwylliant ac erledigaethEglwys Uniongred Wcráin.

Yn ystodyr Ail Ryfel Byd, meddiannwyd gogledd Bukovyna ganyr Undeb Sofietaidd ym Mehefin 1940; adenillodd y Rwmaniaid y diriogaeth yn sgilCyrch Barbarossa (1941). Ailgipiwyd gogledd Bukovyna ym 1944, ac ymgorfforwyd yr honno—Oblast Chernivtsi—yn rhan oWeriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin yn swyddogol ym 1947.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. (Saesneg) Bukovina. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Hydref 2022.
Gorllewin Wcráin
Canolbarth Wcráin
Dwyrain Wcráin
De Wcráin
Gogledd Wcráin
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Bukovyna&oldid=11831059"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp