Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Bugeilgerdd

Oddi ar Wicipedia
Pastore di Arcadia (Bugail Arcadaidd), enghraifft o baentio bugeiliol mewn arddull neoglasurol gan yr arlunydd Eidalaidd Cesare Saccaggi o Tortona

Cân neu gerdd sy'n portreadu bywyd a helyntion bugail neu fugeiliaid ywbugeilgerdd. Weithiau defnyddir y term i gyfeirio at gerddi am y bywyd gwledig yn gyffredinol.

Mae'n ffurf lenyddol hynafol sydd i'w holrhain yn ôl i gyfnodGroeg yr Henfyd a gwaith y barddTheocritus a'i ddilynwyr, yn cynnwysBion aMoschus. Roedd Theocritus a Moschus yn frodorionSiracusa,Sisili. Deialog neuymson a geir yn eu gwaith, sy'n troi fel rheol o gwmpas helynt y praidd a chariadon y bugail.

Ymhlith y beirdd clasurol y dylanwadwyd arnynt gan waith y beirddGroeg hyn y maeFferyllt (Virgil), yn eiEclogues. Gwelir tueddiad i ddelfrydu bywyd y bugail a'i osod mewn math oArcadia baradwysaidd.

Daeth y fugeilgerdd yn ffasiynol eto yn yDadeni ac yn y18g pan gafwyd nifer o gerddi "mewn efelychiad o Theocritus." Y bugeilgerddi enwocaf ynllenyddiaeth Gymraeg yw'r ddwy ganEdward Richard (1714-1777), a leolir yng nghefn gwlad Ceredigion.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Bugeilgerdd&oldid=10933210"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp