Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Bryngaerau Garn Goch

Oddi ar Wicipedia
Bryngaerau Garn Goch
Mathanheddiad dynol,bryngaer Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.902435°N 3.905455°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCM037 Edit this on Wikidata
Y Gaer Fawr, Carn Goch
Carn Goch

Maebryngaerau Garn Goch yn ddwyfryngaerGeltaidd sy'n perthyn iOes yr Haearn, ac sydd wedi'u lleoli gerLlangadog ynSir Gaerfyrddin, Cymru; cyfeirnod OS: SN689243. Cyfeirir at y fwyaf o'r ddwy gaer hyn fel 'bryngaer Carn Goch' neu'rGaer Fawr ac at y gaer lai fel yGaer Fach.

Disgrifiad

[golygu |golygu cod]
Gaer Fawr

Mae'r Gaer Fawr yn cael ei hamddiffyn gan fur amgylchynnol o waith cerrig sy'n amgau 10 hectar o dir ar ben y bryn. Gwelir olion pedair mynedfapostern bychain ac un fynedfa fawr ym mhen gogledd-ddwyreiniol y gaer. Mae slabiau o gerrig yn sefyll yn erbyn y wal. Yn y gornel dde-orllewinol mae trwch y muriau yn 20 meter neu fwy. Dim ond un platfform tai sydd yn y gaer.[1]

Gaer Fach

Mae'r Gaer Fach yn gaer lai ei maint o lawer, dim ond tua chweched rhan maint y Gaer Fawr, ac mae'n sefyll ar grib arall i'r gorllewin. Mae'r mur amddiffynnol yn wan. Does dim sicrwydd am ei pherthynas â'r Gaer Fawr.[1]

Cefndir

[golygu |golygu cod]

Cofrestrwyd y bryngaerau hyn ganCadw a chânt eu hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CM037.[2] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW ohenebion, er bodarchaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydyTre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewinEwrop.[3] Mae eiharwynebedd oddeutu 2.5ha.[4] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydyBryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[5]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod yRhufeiniaid; er enghraifftDinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng200 CC ac OC43.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.01.1Christopher Houlder,Wales: an archaeological guide (Faber and Faber, 1978)
  2. Cofrestr Cadw.
  3. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  4. "Gwefan y BBC". Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd2012-03-05.
  5. "Gwefan CPAT". Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd2012-03-05.
gw  sg  go
Bryngaerau Cymru
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Bryngaerau_Garn_Goch&oldid=11817173"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp