Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Bryngaer

Oddi ar Wicipedia
Bryngaer Dunadd ynArgyll,Yr Alban.

Caer a adeiladwyd ar ben bryn fel adeilad amddiffynnol ywbryngaer. Mae ei ffurf yn dilyn ffurf y bryn a fel arfer maerhagfur affos o'i gwmpas. Codwyd bryngaerau mewn cyfnodau wahanol ac i bwrpas wahanol (nid yn unig am amddiffyn, ond i gadw anifeiliaid, hefyd), ond yngNghymru adeiladwyd mwyafrif ohonynt ynyr Oes Haearn, er enghraifftBryngaer Llwyn Bryn-dinas gerLlangedwyn,y Breiddin,Moel y Gaer, Llandysilio a'r mwyaf drwy ogledd-orllewin Ewrop, sefTre'r Ceiri. Mae bryngaerau ledled Ewrop a chyfandiroedd eraill hefyd, er enghraifft codwyd rhai ynSeland Newydd gan yMaori.

Bryngaerau Canolbarth Ewrop

[golygu |golygu cod]

Mae bryngaerau hynaf canolbarth Ewrop yn dyddio o'r oesNeolithig, ond mae'r mwyafrif yn dyddio o gyfnod ydiwylliant Urnfield ynOes yr Efydd) a'rdiwylliant Hallstatt ynOes yr Haearn, ond adeiladwyd rhai ar ôl goruchafiaeth yrYmerodraeth Rufeinig, hefyd. RoeddIŵl Cesar yn crybwyll y bryngaerau Celtaidd a welodd yn ystod ei ymgyrchoedd o dan yr enwoppida.

Bryngaerau Prydain ac Iwerddon

[golygu |golygu cod]

Cartrefi a gwersyllfeydd milwrol oOes yr Haearn cyn y goresgyniad Rhufeinig yw bryngaerauPrydain. Defnyddiwyd rhai eto yng nghyfnod yRhufeiniaid; er enghraifftDinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur y bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng200 CC ac OC43. Yn yr ardaloedd lle na chafwyd dylanwad Rhufeinig (e.e. ynIwerddon a gogleddyr Alban) adeiladid bryngaerau am ganrifoedd ar ôl hynny. Defnyddiodd yrEingl-Sacsoniaid rhai o'r hen fryngaerau yn Lloegr yn ystod goresgyniad yLlychlynwyr.

Cymru

[golygu |golygu cod]

Gweler hefyd:Rhestr o fryngaerau Cymru aRhestr o fryngaerau Cymru yn ôl eu maint.

Mae bron i 600 o fryngaerau yng Nghymru yn amrywio'n fawr o ran maint o'r caerau bychain yn ne Cymru i gaerau aferthol gororau gogledd Cymru. Roeddent yn cael eu datblygu gan y brodorion o amser eu codi (sy'n amrywio hefyd) a thros y blynyddoedd ychwanegwyd tiroedd ac amddiffynfeydd atynt. Mae rhai'n dyddio'n ôl i'r Oes Efydd diweddar gyda'r rhan fwyaf o fryngaerau Cymru'n perthyn i'r cyfnod 500-100 CC, sef yr Oes Haearn.

Roedd llawer ohonynt e.e.Bryngaer Dinorben (Abergele) yn dal i gael eu defnyddio yn y cyfnod Rhufeinig.

Lloegr

[golygu |golygu cod]

Ceir dros 1,350 bryngaer ynLloegr[1] gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn y de a'r dwyrain, yn enwedig yngNghernyw aDyfnaint lle ceir 285 ohonynt. Er i rai ohonyn nhw gael eu cloddio yn ystod yrOes Efydd, ynOes yr Haearn y codwyd y rhan fwyaf ohonynt h.y. am yr wyth ganrif cyn dyfodiad yRhufeiniaid. Un o'r mwyaf ywMaiden Castle (Dorset) sy'n 44erw (18 ha)[2]

Iwerddon

[golygu |golygu cod]
Caer Navan,Swydd Armagh,Iwerddon.

Ceir 40 o fryngaerau ynIwerddon, gyda'r rhan fwyaf ohonyn nhw rhwng 5 - 10erw.

Bryngaerau yn Ffrainc

[golygu |golygu cod]

MaeBibracte (Mont Beuvray) a Mont St.Odile (Mur Païen) yn fryngaerau enwog ynFfrainc ac mae gwarchae bryngaerAlesia lle cafoddVercingetorix ei orchfygu gan Iŵl Cesar yn enwog iawn hefyd.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Forde-Johnston (1976), tud. 1.
  2. "Gwefan British History Online". Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2012-10-21. Cyrchwyd2010-09-10.

Llyfryddiaeth

[golygu |golygu cod]
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Bryngaer&oldid=11816873"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp