Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Bryncir

Oddi ar Wicipedia
Bryncir
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.979297°N 4.263598°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref yngnghymunedDolbenmaen,Gwynedd,Cymru, ywBryncir.[1][2] Saif yn ardalEifionydd ar briffordd yrA487 rhwngPant Glas a phentref Dolbenmaen, gydaGarndolbenmaen ychydig i'r de-ddwyrain. Mae gerllawAfon Dwyfach.

Cynrychiolir yr ardal hon ynSenedd Cymru ganMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac ynSenedd y DU ganLiz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

Gellir gweld nifer o hynafiaethau yn yr ardal, yn cynnwyscaer Rufeinig ym Mhen Llystyn, lle mae olion y muriau i'w gweld er bod y chwarel raean yno wedi difetha'r tu mewn. Ym mur yr ardd yn ffermdy Llystyn Gwyn, ychydig i'r gogledd o'r pentref mae carreg o'r6g gydag arysgrif mewnLladin acOgam. Yn y Lladin mae'n darllen ICORI(X) FILIUS / POTENT / INI (Icorix, mab Potentinus). Mae cerrig dwyieithog, Lladin ac Ogam, yn gyffredin yn ne-orllewinCymru, ond dyma'r unig un yn y gogledd-orllewin.

Mae Bryncir yn bentref prysur, gyda chanolfan arddio, tafarnau a siopau, ac yn enwedig y farchnad anifeiliad sy'n denu ffermwyr o gryn bellter. Er gwaethaf yr enw, mae Ffatri Wlân Bryncir gryn bellter i'r de-ddwyrain, gerllawGolan. Daw enw'r pentref o blasty Bryncir, tua dwy filltir i'r de-ddwyrain wrth gegCwm Pennant. Pan adeiladwyd y rheilffordd, mynnodd Mr Huddart, perchennog ystâd Bryncir ar y pryd, y byddai gorsaf yn cael ei chodi mor agos ag oedd yn bosibl i'w blasty.

Cafwyd damwain ddrwg ar y rheilffordd gerGorsaf reilffordd Bryncir cyn iddi agor yn swyddogol ym 1866.

Mae llwybr CenedlaetholLôn Las Cymru yn rhedeg drwy'r pentre, ac yma dechreuir adranLôn Eifion, ar lwybr y rheilffordd Caernarfon-Afonwen.

Enwogion

[golygu |golygu cod]

Magwyd y cyflwynydd teledu a radioGerallt Pennant (g. 1960, Bangor) yn Nerwyn Fechan ym Mryncir.

Llyfryddiaeth

[golygu |golygu cod]
  • Frances Lynch,Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995); gweler "Pen Llystyn"

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru".Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 15 Mawrth 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
gw  sg  go
Trefi a phentrefiGwynedd

Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw  ·Y Bala  ·Bethesda  ·Blaenau Ffestiniog  ·Caernarfon  ·Cricieth  ·Dolgellau  ·Harlech  ·Nefyn  ·Penrhyndeudraeth  ·Porthmadog  ·Pwllheli  ·Tywyn
Pentrefi
Aberangell  ·Aberdaron  ·Aberdesach  ·Aberdyfi  ·Aber-erch  ·Abergwyngregyn  ·Abergynolwyn  ·Aberllefenni  ·Abersoch  ·Afon Wen  ·Arthog  ·Beddgelert  ·Bethania  ·Bethel  ·Betws Garmon  ·Boduan  ·Y Bont-ddu  ·Bontnewydd (Arfon)  ·Bontnewydd (Meirionnydd)  ·Botwnnog  ·Brithdir  ·Bronaber  ·Bryncir  ·Bryncroes  ·Bryn-crug  ·Brynrefail  ·Bwlchtocyn  ·Caeathro  ·Carmel  ·Carneddi  ·Cefnddwysarn  ·Clynnog Fawr  ·Corris  ·Croesor  ·Crogen  ·Cwm-y-glo  ·Chwilog  ·Deiniolen  ·Dinas, Llanwnda  ·Dinas, Llŷn  ·Dinas Dinlle  ·Dinas Mawddwy  ·Dolbenmaen  ·Dolydd  ·Dyffryn Ardudwy  ·Edern  ·Efailnewydd  ·Fairbourne  ·Y Felinheli  ·Y Ffôr  ·Y Fron  ·Fron-goch  ·Ffestiniog  ·Ganllwyd  ·Garndolbenmaen  ·Garreg  ·Gellilydan  ·Glan-y-wern  ·Glasinfryn  ·Golan  ·Groeslon  ·Llanaber  ·Llanaelhaearn  ·Llanarmon  ·Llanbedr  ·Llanbedrog  ·Llanberis  ·Llandanwg  ·Llandecwyn  ·Llandegwning  ·Llandwrog  ·Llandygái  ·Llanddeiniolen  ·Llandderfel  ·Llanddwywe  ·Llanegryn  ·Llanenddwyn  ·Llanengan  ·Llanelltyd  ·Llanfachreth  ·Llanfaelrhys  ·Llanfaglan  ·Llanfair  ·Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn)  ·Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant)  ·Llanfihangel-y-traethau  ·Llanfor  ·Llanfrothen  ·Llangelynnin  ·Llangïan  ·Llangwnadl  ·Llwyngwril  ·Llangybi  ·Llangywer  ·Llaniestyn  ·Llanllechid  ·Llanllyfni  ·Llannor  ·Llanrug  ·Llanuwchllyn  ·Llanwnda  ·Llanymawddwy  ·Llanystumdwy  ·Llanycil  ·Llithfaen  ·Maentwrog  ·Mallwyd  ·Minffordd  ·Minllyn  ·Morfa Bychan  ·Morfa Nefyn  ·Mynydd Llandygái  ·Mynytho  ·Nantlle  ·Nantmor  ·Nant Peris  ·Nasareth  ·Nebo  ·Pant Glas  ·Penmorfa  ·Pennal  ·Penrhos  ·Penrhosgarnedd  ·Pen-sarn  ·Pentir  ·Pentrefelin  ·Pentre Gwynfryn  ·Pentreuchaf  ·Pen-y-groes  ·Pistyll  ·Pontllyfni  ·Portmeirion  ·Prenteg  ·Rachub  ·Y Rhiw  ·Rhiwlas  ·Rhos-fawr  ·Rhosgadfan  ·Rhoshirwaun  ·Rhoslan  ·Rhoslefain  ·Rhostryfan  ·Rhos-y-gwaliau  ·Rhyd  ·Rhyd-ddu  ·Rhyduchaf  ·Rhydyclafdy  ·Rhydymain  ·Sarnau  ·Sarn Mellteyrn  ·Saron  ·Sling  ·Soar  ·Talsarnau  ·Tal-y-bont, Abermaw  ·Tal-y-bont, Bangor  ·Tal-y-llyn  ·Tal-y-sarn  ·Tanygrisiau  ·Trawsfynydd  ·Treborth  ·Trefor  ·Tre-garth  ·Tremadog  ·Tudweiliog  ·Waunfawr

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Bryncir&oldid=13087719"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp