Ymladdwyd y frwydr ar lan ogleddolLlyn Trasimeno. Roedd byddin Rhufain o tua 40,000 yn symud tua'r dwyrain ar hyd glan y llyn, yn awchus am frwydr. Roedd yn fore niwlog, ac yn ddiarwybod i'r Rhufeiniaid, roedd Hannibal wedi cuddio ei fyddin o tua 50,000 yn y bryniau uwchben y llyn. Ymosodasant yn ddirybudd, gan ddal y Rhufeiniaid cyn iddynt fedru trefnu eu rhengoedd ar gyfer brwydr. Lladdwyd tua 15,000 o'r Rhufeiniaid, un ai yn y frwydr neu trwy foddi yn y llyn wrth geisio dianc, a chymerwyd tua 10,000 o garcharorion. Ymhlith y meirwon roedd Gaius Flaminius Nepos ei hun. Roedd colledion y Carthaginiaid yn llawer llai, rhwng 1,500 a 2,500.