Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Brwydr Dyrham

Oddi ar Wicipedia
Brwydr Dyrham
Enghraifft o:brwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad577 Edit this on Wikidata
Rhan oanheddiad Anglo-Sacsonaidd Edit this on Wikidata
LleoliadDyrham Edit this on Wikidata
Map

Brwydr dynghedfennol a ymladdwyd yn ne-orllewinPrydain rhwngBrythoniaid y Gorllewin a'rEingl-Sacsoniaid oWessex yn y flwyddyn577 oeddBrwydr Dyrham (hefydBrwydr Deorham). Cytunir yn gyffredinol maiDyrham (Hen Saesneg:Deorham) yn neSwydd Gaerloyw, ym mryniau'rCotswold fymryn i'r gogledd o ddinasCaerfaddon oedd safle'r frwydr, ond erys peth ansicrwydd am hynny. Gan mai cyfeiriad moel yngNghronicl yr Eingl-Sacsoniaid yw ein hunig ffynhonnell, does dim manylion am y frwydr ei hun ar gael.

Enillwyd y frwydr gan ySacsoniaid, ac aethant ymlaen i oresgyn a meddiannuCirencester,Caerloyw, aChaerfaddon, un o ganolfannau crefyddol pwysicaf y Brythoniaid. Lladdwyd hefyd tri o frenhinoedd Brythonig.[1] Mae tystiolaetharchaeolegol yn dangos fod y dinasoedd hyn a'r cyffiniau yn gymharol lewyrchus yn y cyfnod yma, ac felly roedd y golled yn un sylweddol i'r Brythoniaid.

Mae'n frwydr arwyddocaol hefyd yng nghyd-destunhanes Cymru. Fel y torroddBrwydr Caer yn nes ymlaen y cysylltiad ar dir rhwng Cymru a'rHen Ogledd, torrodd Brwydr Dyrham y cysylltiad ar dir rhwng Brythoniaid Cymru a'u cymdogion yn y de-orllewin (Gwlad yr Haf,Dyfnaint aChernyw). Er hynny, mae'n bwysig nodi na chafodd y Sacsoniaid yr ardal gyfan yn eu meddiant ar ôl y frwydr. Daliodd rhannau o Swydd Gaerloyw eu tir am beth amser ac arosodd y rhan fwyaf o Wlad yr Haf yn nwylo'r Brythoniaid am genhedlaeth neu ddwy wedyn. Bu brenin Brythonig ar deyrnas Dyfnaint hyd 710 a brenin Brythonig ar Gernyw hyd at 878.[1]

Cyfeirir ati yn aml fel trobwynt yn hanes yr iaithGymraeg hefyd, gan y tybir fod y gwahaniaethau rhwngHen Gymraeg aBrythoneg y de-orllewin (a gynrychiolir ganGernyweg heddiw) wedi cynyddu ar ôl hynny. Ac eto ceir digon o dystiolaeth fod cysylltiadau yn parhau drosFôr Hafren er gwaethaf hynny.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.01.1John Davies.Hanes Cymru (Penguin, 1992), tt. 58-9.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Brwydr_Dyrham&oldid=10956378"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp