Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Bron

Oddi ar Wicipedia
Bron
Enghraifft o:math o organ, dosbarth o endidau anatomegol, sexual characteristic Edit this on Wikidata
Mathchwarren laeth, region of pectoral part of chest, endid anatomegol arbennig, gendered anatomical structure Edit this on Wikidata
Rhan othoracs,corff dynol, secondary sex characteristic Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bronnau merch.

Cyfeiria'r gairbron at ran uchaf blaen corff anifail,pobl yn enwedig. Mae bronnaumamaliaidbenywaidd yn cynnwyschwarennau llaeth, sy'n cynhyrchulefrith a ddefnyddir i fwydobabanod. Yr enw ar y rhan blaen, ywteth, y rhan y mae baban yn ei sugno. Canolbwyntia'r erthygl hon ar fronnau benywoddynol yn bennaf.

Anatomeg

[golygu |golygu cod]
1:Mur y frest 2:Cyhyraupectoralis 3:Llabedynnau 4:Teth 5:Areola 6:Dwythell 7:Meinwe floneg 8:Croen

Dwy fron sydd gan ddynes. Gorchuddir y bronnau gangroen. Maeteth ar bob un, a amgylchynir ganareola. Amrywia lliw yr areola o binc i frown tywyll, a lleolir sawlcwarren sebwm ynddi. Y chwarrenau llaeth mwyaf sy'n cynhyrchu llefrith. Fe'u dosbarthir trwy'r fron, gydadau draean o'u meinwëoedd o fewn 30 mm o waelod y diden.[1] Maent yn diferu i'r diden trwy nifer (rhwng 4 a 18) o ddwythellau llaeth, ac mae agoriad unigol gan bob un. Ffurfia'r dwythellau rhwydwaith dyrys.

Meinwe cyswllt,meinwe floneg, agewynnau Cooper sy'n ffurfio gweddill y fron. Mae'rgymhareb o chwarrennau i feinwëoedd bloneg yn newid o 1:1 mewn benywod nad ydynt yn llaetha, i 2:1 mewn benywod sydd yn llaetha.[1]

Eistedda'r bronnau dros y cyhyrpectoralis major, ac estynant o lefel yr ail i'r chwechedasen fel arfer.

Mewn benywod a dynion, mae yna grynodiad uchel orydweli anerfau yn y didenau, ac fe all y didennau cael codiad oherwydd symbyliad rhywiol.[2]

Tybir y daw gynhaliaeth anatomegol o ewynnau Cooper yn bennaf, gyda chynhaliaeth ychwanegol o'r croen sy'n gorchuddio'r bronnau. Y gynhaliaeth hon sy'n penderfynu siâp y bronnau. Ni ellir olrhain anatomeg mewnol na gallu llaetha bron o'i siap neu'i maint allanol.

Swyddogaeth

[golygu |golygu cod]

Swyddogaethchwarren laeth y bronnau yw cynhyrchullefrith i feithrinbabanod, sy'n mynd allan trwy'rdidenau yn ystodllaetha. O ran siap y fron dynol, mae'n bosib iddynt esblygu felly er mwyn atal i fabanod fygu wrth fwydo: gan nad yw ên babanod dynol yn ymwthio allan fel y mae mewnprimasiaid eraill, gallasai faban fygu tra'n bwydo o fynwes wastad. Yn ôl y ddamcaniaeth hon, wrth i'r ên esblygu'n llai, fe esblygodd y bronnau'n fwy.[3]

Merch llwyth yrHimba (ynNamibia) yn ei gwisg naturiol, dyddiol heb erioed weld dim o'i le mewn dangos ei bronnau i'r byd a'r betws.

Mae iddynt swyddogaeth arall, sef ennyncynnwrf rhywiol mewn person; maent hefyd yn sensitif i gyffyrddiad gan berson arall, ac yn rhan bwysig o'r arweiniad igyfathrach rhywiol.

Yn y diwylliannau hynny sy'n eu gweld felorganau rhywiol, mae eu dangos yn gyhoeddus yn dabŵ, eithr mewn rhai gwledydd ni fu erioed unrhyw beth o'i le yn eu dangos yn gyhoeddus.

Mae brwydr ar droed led-led y byd dros hawliau merched, ac fel rhan o'r frwydr honno, mae rhai (e.e. y 'topfree equality movement' yn yrUnol Daleithiau aChanada) yn dadlau y dylai merched allu dangos eu bronau'n gyhoeddus. Drwy Ewrop, yn gyffredinol, a llawer o wledydd eraill, caniateir i ferch ddangos ei bronnau'n gyhoeddus ar draeth, ond nid yng nghanol tref.

Newid siap dros y blynyddoedd

[golygu |golygu cod]

Nid yw maint bronnau'n newid hyd nes bod merch yn ei harddegau, mewn cyfnod a elwir yglasoed, pan fo'rhormonestrogen yn dechrau llifo drwy'r corff. Ar adegau prin aiwn, gall lifo drwy fachgen hefyd gan greu bronnau, cyflwr (clwyf mewn gwirionedd) a elwir yngynecomastia. Fel arfer, mae bron chwith y ferch ychydig yn fwy na'r un ar y dde. Yn y cyfnod cynnar hwn o lencyndod, mae'r dwythell yn troi ar i fyny.

Ar adegau prin, gall y bronnau mewn merched yn eu harddegau dyfu yn ormodol,cyflwr hypertrophy yw hwn; ar adegau eraill mae un fron yn tyfu a'r llall yn peidio a thyfu; dro arall nid oes yr un yn tyfu: (hypoplasia) yw'r clefyd hwn.

Mae bronnau merched yn newid eu siap drwy gydol eu hoes, nid yn unig yn ystod eu harddegau. Gall newid yn sylweddol pan fo merch ynfeichiog ac yn ystod ymisglwyf. A phan fo'restrogen yn lleihau yn ystod ydarfyddiad (menopause), mae'r bronnau'n lleihau cryn dipyn.

Nodweddion rhywiol

[golygu |golygu cod]

Mewn sawl diwylliant dros y byd, ystyrir y fron yn rhan o weithgaredd rhywiol pobl. Gan fod ynddynt cymaint o nerfau, maent yn sensitif i gyffyrddiad ac mae eu maldodi'n rhan o weithgareddau'r gyfathrach rywiol. Yn gyffredinol, fe'u hystyrir gan ddyn yn erotig.

Castell Degannwy. Ceir llawer o enwau bryniau a mynyddoedd ledled y byd wedi'u galw'n 'Fron' neu 'fronnau' e.e. 'Lochnagar': 'Mynydd y Bronnau' ac mae'n ddelwedd eitha cyffredin mewn barddoniaeth.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.01.1Anatomy of the lactating human breast redefined with ultrasound imaging, D.T. Ramsay et al.,J. Anat.206:525-534.
  2. "copi archif". Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2010-06-15. Cyrchwyd2007-03-16.
  3. Bentley, Gillian R.The Evolution of the Human Breast,American Journal of Physical Anthropology cyfrol=32 rhifyn=38, 2001
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae ganGomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


gw  sg  go
Rhyw
Digwyddiadau
ffisiolegol
Iechyd ac
Addysg rhyw
Hunaniaeth
Y gyfraith
Hanes
Perthnasau agos
achymdeithas
Yn ôl gwlad
Gweithgareddau rhyw
Y diwydiant rhyw
Chwiliwch ambron
ynWiciadur.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Bron&oldid=10971361"
Categorïau:
Gategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp