Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Brithenig

Oddi ar Wicipedia
Yn ôlIll Bethisad, siaredir Brithenig yn y rhanbarthau gwyrdd,Saesneg yn y rhanbarthau coch, a'rieithoedd Goideleg yn y rhanbarthau oren.

Iaith artiffisial a grëwyd gan Andrew Smith oSeland Newydd ywBrithenig. Cafodd yr iaith ei chreu fel arbrawf i ddarganfod sut gallai iaith Romáwns fod wedi datblygu ymMhrydain petai'r siaradwyrLladin yn ystod yrYmerodraeth Rufeinig wedi bod yn ddigonol i ddisodli'r siaradwyrBrythoneg. Yn ogystal â'r iaith, crëwyd llinell amser amgen,Ill Bethisad ("y Bydysawd"). Yn ôl hanes amgenIll Bethisad mae'r newidiadau seiniol a ddigwyddodd tra ddatblygaiLladin i Frithenig yn Ynysoedd Prydain yn debyg i'r rhai a effeithioddy Gymraeg tra ddatblygai oFrythoneg iHen Gymraeg. Tardd nifer o eiriau yn yr iaith Romáwns hon oFrythoneg ac fe fenthycwyd nifer o eiriau oSaesneg yn ystod ei hanes.

Geirfa

[golygu |golygu cod]

Mae'r rhan fwyaf o eirfa Brithenig yn tarddu oLadin er bod y newidiadau seiniol wedi gwneud i'r geiriau ymddangos yn fwyCeltaidd. Yn y tabl canlynol, mae'r geiriau Brithenig wedi'u cymharu gyda nawiaith Romáwns arall gan gynnwys Wenedyk. Y rheswm dros y tebygrwydd rhwng Brithenig aChymraeg yn rhai o'r geiriau yw'r tarddiadIndo-Ewropeaidd cyffredin, tra bod rhai fel "ysgol" yn fenthyciadau diweddarach i'rGymraeg o'rLladin.

Brithenig wedi'i chymharu â Romáwns a'r Gymraeg
LladinPortiwgalegSbaenegFfrangegEidalegRomaunschRwmanegWenedykBrithenigCymraeg
brachiumbraçobrazobrasbracciobratschbraţbroczbreichbraich
nĭgernegronegronoirneronairnegruniegrynîr(du)
cīvĭtascidadeciudadcitécittàcitadoraşczytaćciwdad(dinas)
mŏrsmortemuertemortmortemortmoartemroćmorth(marwolaeth)
caniscãoperrochiencanechauncâinekańcan(ci)
auris, aurĭcŭlaorelhaorejaoreilleorecchiouregliaurecheurzykłaorigl(clust)
ovumovohuevoœufuovoovouówewwy
ŏcŭlusolhoojoœilocchioeglochiokiełogl(llygad)
paterpaipadrepèrepadrebabtatăpoterzpadr(tad)
ignis, fŏcusfogofuegofeufuocofieufocfokffog(tân)
pĭscispeixepez, pescadopoissonpescepeschpeştepieszczpiscpysgod
pĕspiepiedpiedepepiciorpiedźpedd(troed)
amīcusamigoamigoamiamicoamiprietenomikefig(cyfaill)
vĭrĭdisverdeverdevertverdeverdverdewierdzigwirddgwyrdd
ĕquus, cabălluscavalocaballochevalcavallochavalcalkawałcafallceffyl
ĕgoeuyojeiojaueujoeo(i)
īnsŭlailhaislaîleisolainslaostrovizłaysl(ynys)
lĭngualíngualengualanguelingualinguatg, lieungalimbălęgwallinghedig, llingw(iaith)
vītavidavidavievitavitaviaţăwitagwid(bywyd)
lacleitelechelaitlattelatglaptełocllaethllaeth
nōmennomenombrenomnomenumnumenumięnôn(enw)
nŏxnoitenochenuitnottenotgnoaptenocnoeth(nos)
vĕtusvelhoviejovieuxvecchioveglvechiwiekłygwegl(hen)
schŏlaescolaescuelaécolescuolascolaşcoalăszkołayscolysgol
caelumcéucielocielcielotschielcerczałcel(wybr)
stēllaestrelaestrellaétoilestellastailasteaściołaystuil(seren)
dēns, dĕntemdentedientedentdentedentdintedzięćdentdant
vōxvozvozvoixvocevuschglaswuczgwg(llais)
aquaáguaaguaeauacquaauaapăjekwaag(dŵr)
vĕntusventovientoventventoventvântwiętgwentgwynt

Testun enghreifftiol

[golygu |golygu cod]

DymaWeddi'r Arglwydd yn Frithenig:

Nustr Padr, ke sia i llo gel:
sia senghid tew nôn:
gwein tew rheon:
sia ffaeth tew wolont,
syrs lla der sig i llo gel.
Dun nustr pan diwrnal a nu h-eidd;
e pharddun llo nustr phechad a nu,
si nu pharddunan llo nustr phechadur.
E ngheidd rhen di nu in ill temp di drial,
mai llifr nu di'll mal.
Per ill rheon, ill cofaeth e lla leir es ill tew,
per segl e segl. Amen.

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Brithenig&oldid=10842601"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp