| Brian Aldiss | |
|---|---|
| Ffugenw | Jael Cracken |
| Ganwyd | Brian Wilson Aldiss 18 Awst 1925 Dereham |
| Bu farw | 19 Awst 2017 Rhydychen |
| Man preswyl | Dereham |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | awdur ffuglen wyddonol, nofelydd, beirniad llenyddol,ysgrifennwr,sgriptiwr,celfyddydwr, person milwrol, llyfrwerthwr, prif olygydd, newyddiadurwr |
| Swydd | beirniad Gwobr Booker |
| Adnabyddus am | Non-Stop, Hothouse |
| Arddull | gwyddonias |
| Prif ddylanwad | Karel Čapek, Olaf Stapledon,H. G. Wells,Mary Shelley, Roy Campbell |
| Gwobr/au | OBE, European Award of the Grand Prix de l'Imaginaire, Gwobr Hugo am y Stori Fer Orau, Gwobr Nebula am y Nofel Fer Orau, Pilgrim Award, Gwobr Hugo am y Gwaith Perthnasol Gorau, Gwobr Goffa John W. Campbell am y Nofel Ffuglen Wyddonol Orau, Gwobr Tähtivaeltaja, Gwobr Damon Knight, Uwch Feistr, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Hall of Fame Ffantasi a llenyddiaeth Wyddonias, Gwobr y BSFA am y Nofel Orau, Gwobr Ditmar, World Fantasy Convention Award, Gwobr y BSFA am y Nofel Orau, Gwobr y BSFA am y Nofel Orau |
| Gwefan | http://www.brianaldiss.co.uk/ |
Awdur a golygydd Seisnig oeddBrian Wilson Aldiss,OBE (/ˈɔːldɪs/;18 Awst1925 –19 Awst2017[1][2]), a oedd yn fwyaf adnabyddus am nofelau a straeon byrion gwyddonias. Defnyddiodd yr enwBrian W. Aldiss neuBrian Aldiss, heblaw am ambell ffugenw yn ystod canol y 1960au.
Cafodd ei ddylanwadu yn fawr gan yr arloeswr gwyddoniasH. G. Wells, a roedd Aldiss yn is-lywydd Cymdeithas ryngwladol H. G. Wells. Roedd yn gyd-lywydd (gyda Harry Harrison) Grŵp Gwyddonias Birmingham. Enwyd Aldiss yn Grand Master gan Awduron Gwyddonias America yn 2000, a fe'i sefydlwyd yn Oriel Enwogion Gwyddonias yn 2004. Derbyniodd ddau Wobr Hugo, un Gwobr Nebula a un Gwobr Goffa John W. Campbell.[3] Ysgrifennodd y stori fer "Super-Toys Last All Summer Long" (1969), oedd yn sylfaen i ffilmStephen SpielbergA.I. Artificial Intelligence a ddatblygwyd ganStanley Kubrick. Roedd Aldiss yn gysylltiedig a'r Don Newydd Prydeinig o wyddonias.[4]
Yn 1938, priododd Aldiss gyda Olive Fortescue, ysgrifennydd i berchennog gwerthwyr llyfrau Sanders yn Rhydychen, lle roedd wedi gweithio ers 1947.[5] Roedd ganddo ddau blentyn o'i briodas gyntaf, Clive yn 1955 a Caroline Wendy yn 1957, ond fe "methodd" y briodas yn 1959 a'i ddiddymu yn 1965.[5][6]
Yn 1965, priododd ei ail wraig, Margaret Manson, menyw Albanaidd, ysgrifennydd i olygydd yrOxford Mail, pan oedd yn 40 a hithau yn 31.[5] Roeddent yn byw yn Rhydychen, a cafodd y cwpl ddau blentyn, Tim a Charlotte .[5][6] Bu farw Margaret yn 1997.[5]