Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Brasil

Oddi ar Wicipedia
Brasil
Gweriniaeth Ffederal Brasil
República Federativa do Brasil
Mathgwladwriaeth sofran, gwladwriaeth seciwlar,gwlad, gwladwriaeth ffederal Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCaesalpinia echinata Edit this on Wikidata
PrifddinasBrasília Edit this on Wikidata
Dinas fwyafSão Paulo Edit this on Wikidata
Poblogaeth213,421,037 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd7 Medi 1822 (Annibyniaeth oddi wrthPortiwgal)
29 Awst 1825 (Cydnabod)
15 Tachwedd 1889 (Gwladwriaeth)
AnthemHino Nacional Brasileiro Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethLuiz Inácio Lula da Silva Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−02:00, UTC−02:00, UTC−03:00, UTC−03:00, UTC−03:00, UTC−04:00, UTC−04:00, UTC−05:00 Edit this on Wikidata
NawddsantOur Lady of Aparecida Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Portiwgaleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAmerica Ladin, Ibero-America, De De America,De America Edit this on Wikidata
GwladBrasil Edit this on Wikidata
Arwynebedd8,515,767 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd,Afon Amazonas,Afon Paraná,Afon São Francisco Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydayr Ariannin,Bolifia,Guyane,Gaiana,Paragwái,Periw,Swrinam,Wrwgwái,Feneswela,Colombia,Ffrainc Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau14°S 53°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Ffedral Brasil Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynghrair Genedlaethol Brasil Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Brasil Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethLuiz Inácio Lula da Silva Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd Brasil Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethLuiz Inácio Lula da Silva Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$1,649,623 million, $1,920,096 million Edit this on Wikidata
ArianBrazilian real Edit this on Wikidata
Canran y diwaith7 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.6 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.754 Edit this on Wikidata

Gwlad fwyafDe America ywBrasil (Portiwgaleg:Brasil),Gweriniaeth Ffederal Brasil yn swyddogol[1][2] (Portiwgaleg:República Federativa do Brasil).Wrwgwái,yr Ariannin,Paragwái,Bolifia,Periw,Colombia,Feneswela,Gaiana,Swrinam, aGuyane yw'r gwledydd cyfagos, gydaChefnfor Iwerydd yn gorwedd i'r dwyrain. Maeamaethyddiaeth yn bwysig ym Mrasil ac mae ynddifforestydd glaw eang.

Taleithiau

[golygu |golygu cod]

Caiff holl daleithiau Brasil eu cydnabod arfaner y wlad gydag un seren y cynrychioli pob talaith.

Prif:Taleithiau Brasil

Rhennir Brasil yn 26 o daleithiau:

1TalaithTalfyriadPobl. (2008)Arwynebedd (km²)Prifddinas
1AcreAC692.000153.149Rio Branco
2AlagoasAL3.173.00027.933Maceió
3AmapáAP626.000143.453Macapá
4AmazonasAM3.399.0001.577.820Manaus
5BahiaBA14.561.000567.295Salvador
6CearáCE8.472.000146.348Fortaleza
7Espírito SantoES3.448.00046.184Vitória
8GoiásGO5.870.000341.289Goiânia
9MaranhãoMA6.400.000333.365São Luís
10Mato GrossoMT3.010.000906.806Cuiabá
11Mato Grosso do SulMS2.372.000358.158Campo Grande
12Minas GeraisMG19.904.000588.383Belo Horizonte
13ParáPA7.367.0001.253.164Belém
14ParaíbaPB3.794.00056.584João Pessoa
15ParanáPR10.605.000199.709Curitiba
16PernambucoPE8.745.00098.937Recife
17PiauíPI3.164.000252.378Teresina
18Río de JaneiroRJ15.685.00043.909Rio de Janeiro
19Rio Grande do NorteRN3.153.00052.796Natal
20Rio Grande do SulRS10.860.000269.153Porto Alegre
21RondôniaRO1.519.000238.512Porto Velho
22RoraimaRR421.000225.116Boa Vista
23Santa CatarinaSC6.091.00095.442Florianópolis
24São PauloSP40.764.000248.808São Paulo
25SergipeSE2.030.00021.910Aracaju
26TocantinsTO1.303.000278.420Palmas
27Distrito FederalDF2.526.0005.822Brasilia

Daearyddiaeth Brasil

[golygu |golygu cod]
Prif:Daearyddiaeth Brasil
Merch llwyth yr Ashaninka.

O ran arwynebedd, mae Brasil yn gorchuddio bron hanner cyfandirDe America. Hi yw'r bumed wlad yn y byd o ran arwynebedd; dim ondRwsia,Canada,Tsieina a'rUnol Daleithiau sy'n fwy. Mae'n ffinio ar wledyddWrwgwái,yr Ariannin,Paragwái,Bolifia,Periw,Colombia,Feneswela,Gaiana,Swrinam, aGuyane. Dim ond dwy wlad yn Ne America sydd heb ffin â Brasil, sefTsile acEcwador.

Ceir nifer o afonydd mwyaf y cyfandir ym Mrasil. TarddaAfon Amazonas, afon fwyaf y byd, ym Mheriw, ond mae'n llifo tua'r dwyrain gyda'r rhan fwyaf o'i chwrs ym Mrasil. Mae nifer o'r afonydd sy'n llifo i mewn i'r Amazonas hefyd yn bwysig iawn, yn enwedigAfon Negro.

Mae'r ail hwyaf o afonydd De America,Afon Paraná, yn tarddu yn ne Brasil ac yn llifo tua'r de-orllewin. Ger dinas Salto del Guairá, mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng tair gwlad: yr Ariannin, Paragwái a Brasil. Gerllaw'r fan hon maeAfon Iguazú, sydd hefyd yn tarddu ym Mrasil, yn ymuno â hi.

Yn nalgylch afon Amazonas mae'r darn mwyaf offorest law drofannol yn y byd, er bod llawer ohoni wedi ei cholli yn y blynyddoedd diwethaf.

Hanes Brasil

[golygu |golygu cod]
Prif:Hanes Brasil

Dechreuodd hanes Brasil pan gyrhaeddodd y bobl gyntaf tua 8,000 o flynyddoedd yn ôl oAsia; yr adeg honno roedd tir yn cysylltu Asia a chyfandir America yn y gogledd. Erbyn i'r Ewropeaid cyntaf gyrraedd yn y16g, roedd dros 2,000 o lwythau gwahanol yn nhiriogaeth Brasil. Wedi dyfodiad y Portiwgaliaid, lleihawyd niferoedd y brodorion yn fawr gan glefydau megisy frech wen.

Credir mai'r Ewropead cyntaf i ddarganfod Brasil oedd y fforiwrPortiwgeaiddPedro Álvares Cabral ar22 Ebrill,1500. O'r16g hyd y19g roedd Brasil yn rhan o ymerodraeth Portiwgal.

Yn1808 bu raid iJoão VI (yn dywysog rhaglaw bryd hynny) a theulu brenhinol Portiwgal ffoi pan feddianwydPortiwgal ganFfrainc danNapoleon. O hynny hyd1821, oRio de Janeiro y gweinyddid ymerodraeth Portiwgal. Yn 1815 cyhoeddodd y brenin fod Portiwgal a Brasil yn un deyrnas unedig.

Ar7 Medi1822 cyhoeddodd y wlad ei hun yn annibynnol, a daeth yn frenhiniaeth gyfansoddiadol dan yr enwYmerodraeth Brasil, gyda Pedro yn teyrnasu felPedro I, Ymerawdwr Brasil. Wedi i'r fyddin gipio grym yn1889, daeth y wlad yn weriniaeth. Heblaw am dri chyfnod o lywodraeth unbenaethol ym 1930-1934, 1937-1945, a 1964-1985, mae wedi bod yn weriniaeth ddemocrataidd ers hynny.

Demograffeg Brasil

[golygu |golygu cod]
Prif:Demograffeg Brasil

Dinasoedd mwyaf Brasil yw:

Gwleidyddiaeth Brasil

[golygu |golygu cod]
Prif:Gwleidyddiaeth Brasil

Iaith a Diwylliant

[golygu |golygu cod]
Prif:Diwylliant Brasil

Iaith

[golygu |golygu cod]

Portiwgaleg yw unig iaith swyddogol Brasil; mae bron bawb yn y wlad yn ei medru a dyma'r unig iaith a ddefnyddir mewn addysg ac ar y cyfryngau. Brasil yw'r unig wlad yn Ne America sy'n defnyddio Portiwgaleg (Sbaeneg yw iaith y mwyafrif o'r gwledydd), ac mae'r iaith yn rhan bwysig o hunaniaeth genedlaethol Brasil. Ceir rhywfaint o wahaniaethau rhwng yr iaith ym Mrasil ac ym Mhortiwgal.

Siaredir cryn nifer o ieithoedd eraill yn y wlad, yn cynnwys tua 180 o ieithoedd brodorol. Ceir hefyd gymunedau sy'n siaradAlmaeneg acEidaleg.

Diwylliant

[golygu |golygu cod]

Ceir nifer o ddylanwadau ar ddiwylliant Brasil, ond diwylliant Portiwgal yn bennaf, ond hefyd ddiwylliant y bobl frodorol, yn enwedig yTupi), a chaethweision oAffrica. Gwelir dylanwad Affricanaidd mewn cerddoriaeth a bwyd yn arbennig.

O ran cerddoriaeth, ceir arddulliau megissamba,bossa nova,forró,frevo, pagode ac eraill. Mae'r carnifal yn ddigwyddiad poblogaidd dros ben mewn llawer o ddinasoedd, ac mae carnifal Rio de Janeiro yn fyd-enwog.

Crefydd

[golygu |golygu cod]

Yr Eglwys Gatholig yw'r enwad cryfaf ym Mrasil, ac yma y mae'r nifer mwyaf o Gatholigion yn y byd. Mae'r nifer o Brotestaniaid o wahanol enwadau yn llai ond yn cynyddu. Yn ôl y cyfrifiad diwethaf mae 74% o'r boblogaeth yn Gatholigion (tua 139 miliwn); 15.4% yn Brotestaniaid (tua 28 miliwn), 7.4% yn agnostigiaid neu anffyddwyr, 1.3% yn dilyn crefyddau Ysbrydiaeth, 0.3% yn dilyn crefyddau Affricanaidd traddodiadol a 1.7% yn aelodau o grefyddau eraill.

Chwaraeon

[golygu |golygu cod]

Pêl-droed yw'r mwyaf poblogaidd o'r chwaraeon ym Mrasil, ac mae'r tîm cenedlaethol wedi ennillCwpan y Byd bum gwaith, yn 1958, 1962, 1970, 1994 a 2002, mwy nag unrhyw wlad arall. Yr enwocaf o bêl-droedwyr Brasil ywPelé, enw llawn Edison Arantes do Nascimento, a ystyrir gan lawer fel y pêl-droediwr gorau yn hanes y gêm.

Bwyd a diod

[golygu |golygu cod]

Brazil yw cynhyrchydd coffi mwyaf ers 150 mlynedd.[3]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. I'w weld ary gwefan cenedlaethol
  2. Grids & Datums – Federative Republic of Brazil. Ionawr 2009. http://www.asprs.org/resources/GRIDS/01-2009-brazil.pdf. Adalwyd 2010-05-09.
  3. Jeff Neilson, Bill Pritchard (26 Gorffennaf 2011).Value Chain Struggles. John Wiley & Sons. t. 102.

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
gw  sg  go
De America
Gwladwriaethau sofranaidd
Tiriogaethau dibynnol,
ardaloedd ymreolaethol,
athiriogaethau eraill
1Ystyrid weithiau fel rhan oOgledd America neuGanolbarth America.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Brasil&oldid=14326216"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp