Gwirod a wneir o wahanol fathau offrwythau, ond yn arbenniggrawnwin, ywbrandi. Daw'r gair o'rIseldiregbrandewijn. Mae'n cynnwys rhwng 35–60% oalcohol, o ran ei gyfaint, (70–120 'prawf'UDA) a chaiff ei yfed, fel rheol, wedi cinio er mwyn cynorthwyo i dreulio'r bwyd.
Fel arfer, yfir brandi ar dymheredd yr ystafell, ond yn aml, fe'i rhoddir mewn gwydr llydan er mwyn i wres y llaw godi ei dymheredd ychydig. I gyflymu'r broses hon, gellir rhoi gwydriad o frandi mewnpopty microdon am tua 5 eiliad.
Ceir llawer o wahanol fathau o frandi o rawnwin, wedi eu cynhyrchu mewn nifer o wledydd. Cysylltir y ddiod yn arbennig aFfrainc, lle mae mathau enwog o frandi yn cynnwysCognac ac Armanac. Ymhlith y gwledydd eraill sy'n nodedig am gynhyrchu brandi maeSbaen, yn enwedig ardalJerez de la Frontera, acArmenia.[1][2] Cedwir y goreuon am gyfnod hir mewn casgenni prenb, derw, ond defnyddir 'caramel' ar eraill er mwyn tywyllu lliw'r hylif iddo edrych yn hen.
Gellir defnyddio nifer o ffrwythau eraill, ar wahân i rawnwin, i gynhyrchu brandi, er enghraifftCalvados, a wneir ynNormandi oafalau; math arall yw brandi pomace.[1][3] Gelwir y diodydd hyn yneau de vie (sef y termFfrangeg am "ddŵr y bywyd").