DuwiesIwerddon cyn-Gristnogol oeddBrìghde (hefydBrigit,Brigid, neuBríg aFfraid yn y Gymraeg), sy'n golygu "un aruchel". Ym mytholeg Iwerddon, aelod yTuatha Dé Danann (llwyth y dduwiesDana), merch yDagda, a gwraig iBres yr oedd. Cafodd Brìghde a Bres fab gyda'i gilydd o'r enw Ruadán.
Awgrymid i Brìghde fod yndduwies y wawrIndo-Ewropeaidd. Cysylltir hi â'r gwanwyn, ffrwythlondeb, iacháu, barddoniaeth, a gofaniaeth. Roedd ganddi ddwy chwaer, a hefyd yn dwyn yr enw Brìghde, felly ystyrir hi'n un o'rDuwiesau Triphlyg Celtaidd.
Ceir hanes amdani ynLebor Gabála Érenn, lle dywedir fod ganddi ddau ych, Fe a Men, sy'n pori ar wastadedd a alwyd yn Femen ar eu holau; yTorc Triath (Twrch Trwyth), brenin y baeddod, a Cirb, brenin y defaid. Cysylltir hi a fflamau sanctaidd ac a ffynhonnau, ac roedd yn dduwies uchelfannau, megisbryngaerau. Ymddengys i rywfaint o'i phriodoleddau gael eu troi yn hanesion am y SantesFfraid (Brigit mewnGwyddeleg). Roedd y dduwiesBrigantia yn cyfateb iddi ar Ynys Prydain, ac mae'n ymddangos fod Brigantia yn cael ei huniaethu agAthena aMinerva.