Iaith a siaredir ymMosnia a Hertsegofina a rhai gwledydd cyfagos ywBosneg[1] (bosanski jezik /босански језик). Mae'n iaith swyddogol ym Mosnia a Hertsegofina, a cheir siaradwyr mewn rhai gwledydd eraill, gyda tua 5,500,000 o siaradwyr i gyd.
Mae Bosneg yn rhan o'r grŵp oieithoedd De Slafonaidd a elwir wrth yr enwSerbo-Croateg, sydd hefyd yn cynnwysCroateg aSerbeg. Arferid meddwl am Serbo-Croateg fel un iaith, ac mae llawer o ieithyddion yn y gorllewin yn dal i ystyried fod hyn yn wir. Fodd bynnag, gyda diflaniadIwgoslafia, daethpwyd i feddwl am Serbeg, Bosneg a Chroateg fel ieithoedd ar wahân, er eu bod cywair safonol pob un yn seiliedig ar yr un dafodiaith yn union. Gellid disgrifio Serbeg, Bosneg aMontenegreg fel amrywiaethau ieithyddol, sydd ag enw gwahanol ac wedi eu safoni ar wahân.