Dinas achymuned (comune) yng ngogleddyr Eidal ywBolzano (Almaeneg:Bozen,Ladineg:Bulsan), sy'n prifddinas a dinas fwyaf Talaith YmreolaetholBolzano. Roedd y boblogaeth yn2006 yn 99,764.
Er bod y mwyafrif o boblogaeth y dalaith yn siarad Almaeneg fel mamiaith, yn ninas Bolzano yn2001 roedd 73% yn siaradEidaleg fel mamiaith, 26% Almaeneg ac 1% Ladineg.Roedd 8% o'r boblogaeth yn dramorwyr.
Saif y ddinas lle maeafon Talfer (Talvera) yn llifo i mewn iafon Eisack (Isarco), Ychydig i'r de o'r ddinas, mae'r Eisack yn llifo i mewn iafon Etsch (Adige).
Ceir amgueddfa archaeolegol yn y ddinas, lle gellir gweld gweddillionÖtzi, y dyn o Oes yr Efydd neu Oes yr Haearn y cafwyd ei gorff mewn rhewlif yn y mynyddoedd gerllaw Bolzano. Ceir nifer o gestyll yn yr ardal; y tri pwysicaf ywCastell Maretsch,Castell Runkelstein aCastell Sigmundskron.