Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Boii

Oddi ar Wicipedia
Boii
Enghraifft o:grŵp ynysig o bobl,grŵp ethnig Edit this on Wikidata
MathY Galiaid Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Biatec gwreiddiol ar y chwith, a chopi modern ar ddarn 5-koruna arian tebyg i'r rhai a grewyd gan y Boii

LlwythCeltaidd oedd yBoii (Lladin lluosog, yr unigol oeddBoius;Groeg:Βοιοι). Ceir cyfeiriadau atynt ar wahanol adegau yngNgâl, yn cynnwys gogleddyr Eidal,Pannonia (gorllewinHwngari heddiw),Bohemia,Morafia a gorllewinSlofacia. Cadwyd eu henw yn yr enw "Bohemia".

Dywedir gan awduron clasurol iddynt groesi oGallia Transalpina ac ymsefydlu ar y gwastadeddau o amgylchAfon Po, ar ôl gorchfygu'rEtrwsciaid lleol. Yn ystod ail hanner y3 CC ffurfiodd y Boii a llwythau Celtaidd eraill gogledd yr Eidal gynghrair â'r Etrwsciaid yn erbynGweriniaeth Rhufain. Ymladdasant yn erbyn y Rhufeiniaid mewn cynghrair aHannibal hefyd, gan ladd y cadfridog Rhufeinig Lucius yn224 CC, ac wedyn yn193 CC ger Mutina (Modena heddiw). Wedi hyn, gadawodd llawer o'r Boii yr Eidal.

Roedd cangen arall o'r llwyth wedi ymsefydlu yn Pannonia. DywedStrabo iddynt orchfygu ymosodiadau gan yCimbri a'rTeutones yn yr2 CC. Ymunodd carfan ohonynt a'rHelvetii pan geisiodd y llwyth hwnnw ymfudo i orllewin Gâl, a chael eu gorchfygu ganIŵl Cesar. Caniataodd llwyth yrAedui i weddillion y rhain ymsefydlu yn eu tiriogathau hwy, yn cynnwysoppidumGorgobina.

Roedd cangen arall o'r Boii ar wastadeddau Hwngari o gwmpasAfon Donaw. Cofnodir iddynt gael eu gorchfygu gan yDaciaid tua40 CC.

Mae olion ohonynt i'w gweld mewn enwau lleoedd megisBohemia (Boio-haemum = "cartref y Boii"),Bafaria (Bai-ovarii = "Baio-ymladdwr") aBononia (yr hen enw ar ddinasBologna).

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Boii&oldid=12868038"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp