Bod dynol yw gairgwyddonol am unrhyw un o'r hil ddynol (dynoliaeth neu ddynolryw) sy'n perthyn i rywogaethHomo sapiens (neu ‘dyn deallus’);human yn Saesneg. Mae bod dynol ynepa mawrdeudroed sy'n sefyll yn hollol unionsyth ac a osodir yn yteuluprimataidd a elwir ynHominidae.[1][2] Mae tystiolaeth genynnol o ranDNA yn dangos mai cynefin neu darddle bodau dynol ywAffrica, ac iddynt ddod o'r fan honno tua 200,000 o flynydoedd yn ôl.
Mae gan fodau dynolymennydd sydd wedi datblygu llawer pellach na gweddill yranifeiliaid, yn fiolegol felly. Gallresymoli yn haniaethol, gall ymwneud agiaith,mewnsyllu a datrys problemau fel maen nhw'n codi. Mae'r gallu ymenyddol hwn ynghyd â chorff fertigol, gyda breichiau rhydd i symud neu ddal a thrin erfyn yn ei alluogi i ddefnyddio arfau llawer mwy nag unrhyw anifail arall i amddiffyn ei hun, i weithio am fwyd neu i ymosod.
Mae bodau dynol wedi eu dosbarthu ar hyd a lled y ddaear ar wahân i'rAntartig. Mae poblogaeth y ddaear bellach yn fwy na 6.7 biliwn, (data Gorffennaf, 2008).[3] Un isrywogaeth sydd ar gael:Homo sapiens sapiens. Mae'nfamal ac felly'nllaetha i fwydo ei epil.
Felepaod, mae dyn yn gymdeithasol ei natur. Mae wedi mireinio'r grefft o gyfathrebu'n effeithiol er mwyn iddo fynegi ei hun, cyfnewid syniadau a threfnu gweithgareddau. Mae wedi creu strwythurau cymdeithasol cywrain a chymhleth o grwpiau sy'n cydweithio ac yn cystadlu yn erbyn ei gilydd; grwpiau mor wahanol â'rteulu achenhedloedd. Mae'r cydymwneud hwn rhwng dyn a dyn wedi sefydlu dros y milenias diwethafdraddodiadau,defodau,moesau,gwerthoedd a safon dderbyniol gan gymdeithas drwy gyfundrefn oddeddfau. Gall dyn werthfawrogiharddwch acestheteg sydd ynghyd â'r awydd i fynegi ei hun wedi arwain atgelfyddyd,llenyddiaeth acherddoriaeth.
Homo sapiens. Daethbodau dynol anatomegol fodern i'r amlwg tua 300,000 o flynyddoedd yn ôl ynAffrica, gan esblygu oHomo heidelbergensis a mudoallan o Affrica, gan ddisodli'n raddol perthnasau lleol hynafol. Am y rhan fwyaf o hanes, roedd pob bod dynol ynheliwr-gasglwyr crwydrol. Gwelodd y Chwyldro Neolithig, a ddechreuodd ynNe-orllewin Asia tua 13,000 o flynyddoedd yn ôl, ymddangosiadamaethyddiaeth ac anheddiadau dynol parhaol. Wrth i boblogaethau ddod yn fwy ac yn fwy dwys, datblygodd mathau o lywodraethu o fewn cymunedau, a rhwng cymunedau, ac mae sawlgwareiddiad wedi codi, gostwng a diflannu. Mae nifer y bodau dynol wedi parhau i godi, gyda phoblogaeth fyd-eang o dros 7.9 biliwn ym mis Rhagfyr 2021.
Maegenynnau a'r amgylchedd yn dylanwadu ar amrywiaeth biolegol dynol - a hynny'n weladwy: yn ffisiolegol, yn tueddu i ddal clefydau'n aml, eu galluoedd meddyliol, maint y corff ac einioes (hyd oes person). Er yr amrywiaeth hwn, ac er bod bodau dynol yn amrywio mewn llawer o nodweddion mae genynau unrhyw ddau berson dros 99% yn union yr un fath. Mae bodau dynol yn ddeumorffig yn rhywiol: yn gyffredinol, mae dynion yn gryfach ac mae gan fenywod ganran uwch o fraster corff. Yn ystodglasoed, mae bodau dynol ('pobl' a ddywedir ar lafar ac yn gyffredin) yn datblygu nodweddion rhyw eilaidd eebronnau'n chwyddo a chluniau llydan mewn merched,blew'r wyneb acafal breuant (llwnc) mewn gwrywod, achedor ar y ddau. O lasoed ymlaen, mae'r ferch hefyd yn cael misglwyf a gallantfeichiogi; diwedd y cyfnod hwn yw'r menopos gan fod yn anffrwythlon pan fyddant tua 50 oed.
Nodweddion anatomegol sylfaenol o fodau dynol benyw a gwryw.
Mae bodau dynol ynhollysol, yn gallu bwyta amrywiaeth eang o ddeunydd planhigion ac anifeiliaid; maent wedi defnyddio tân a mathau eraill o wres i baratoi achoginio bwyd ers cyfnodH. erectus. Gallant oroesi am hyd at wyth wythnos heb fwyd, a thri neu bedwar diwrnod heb ddŵr. Mae pobl, fel arfer, yn effro'n ystod y dydd ac yn cysgu rhwng 7 a 9 awr ar gyfartaledd fin nos. Mae genedigaeth yn gyfnod peryglus, gyda risg uchel o gymhlethdodau a marwolaeth. Yn aml, mae'r fam a'r tad yn darparu gofal i'w plant, sy'n gwbwl ddiymadferth pan cant eu geni.
Mae gan fodau dynol cortecs cyndalcennol (prefrontal cortex) mawr a hynod ddatblygedig, dyma'r rhan o'r ymennydd sy'n gysylltiedig âgwybyddiaeth uwch. Maent yn ddeallus, yn gallucofio pethau, mae eu hwynebau'n mynegi eu teimladau, maent yn hunanymwybol ac cheirdamcaniaeth darogan meddwl, sef y gallu i ddeall pobl eraill trwy roi cyflyrau meddyliol iddynt ee credoau, dyheadau, bwriadau, emosiynau a meddyliau. Mae'r meddwl dynol yn gallu mewnsyllu,meddwl yn breifat, dychmygu, ewyllysio a ffurfio barn ar fodolaeth. Daeth y datblygiad enfawr hwn oherwydd rheswm a thrwy drosglwyddo gwybodaeth o genedlaeth i genhedlaeth. Ymhlith y nodweddion dynol eraill y mae iaith, celf a masnach. Mae'n bosib fod llwybrau-masnach hir fod wedi arwain at sawl ffrwydrad diwylliannol.
Mae pob bod dynol modern ynrhywogaeth oHomo sapiens, gair a fathwyd ganCarl Linnaeus yn ei waithSystema Naturae o'r18g.[4] Mae'renw generig "Homo" yn tarddu o'r18g o'r Lladinhomō, sy'n cyfeirio at fodau dynol o'r naill ryw neu'r llall.[5] Gall y gairdynol(yn) gyfeirio at bob aelod o'r genwsHomo,[6] er ei fod yn gyffredin yn gyffredinol yn cyfeirio atHomo sapiens, yr unig rywogaeth sy'n bodoli.[7] Mae'r enwHomo sapiens yn golygu ‘dyn doeth, dyn gwybodus’.[8] Ceir anghytundeb a ddylid cynnwys dynolion diflanedig, sef yNeanderthaliaid, fel isrywogaeth oH. sapiens ai peidio.[6]
O'r gairCelteg *gdonios ‘bod dynol’ y daw'r gair Cymraegdyn, sy'n debyg i'rLlydawegden a'rWyddelegduine. Mae'r geiriau hyn yn cyfeirio at bobl o'r ddau ryw, nid dyn yn unig. Mae'r dywedaid Beiblaidd enwog,'Pa beth yw dyn i ti i'w gofio, a mab dyn i ti ymweled ag ef? yn cyfeirio at y ddynoliaeth gyfan, nid at yr dynion yn unig.
Epaod (uwchdeulu'rHominoidea) yw bodau dynol.[9] Y giboniaid (teulu'rHylobatidae) a'rorangwtangiaid (genws yPongo) oedd y grwpiau byw cyntaf i wahanu oddi wrth y llinach hon, ynagorilaod, ac yn olaf, ytsimpansî (genws yPan). Gosodir dyddiad y gwahanu hwn rhwng llinachau dynol a tsimpansî 8–4 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn ystod yr epocMïosen diweddar,[10][11][12] gyda rhai genetegwyr yn cyfyngu'r cyfnod ymhellach, i rhwng 8–7 miliwn ofyo (CP).[13] Dyma'r cyfnod pan ffurfiwyd cromosom 2 drwy uno dau gromosom arall, gan adael bodau dynol gyda dim ond 23 pâr o gromosomau, o'i gymharu â 24 ymhob epa arall.[14]
Esblygodd y genwsHomo oAustralopithecus.[15][16] Er bod ffosilau o'r trawsnewidiad yn brin, mae dynolion cynharafHomo yn rhannu sawl nodwedd allweddol agAustralopithecus.[17][18] Y cofnod cynharaf oHomo yw’r sbesimen LD 350-1 2.8 miliwn oed oEthiopia, a’r rhywogaethau cynharaf a enwyd ywHomo habilis aHomo rudolfensis a esblygodd 2.3 miliwn ofyo.[18]Esblygodd H. erectus (weithiau gelwir yr amrywiad Affricanaidd hwn ynH. ergaster) 2 filiwn ofyo a hwn oedd y dynolyn cyntaf i adael Affrica a gwasgaru ar draws Ewrasia.[19]H. erectus hefyd oedd y cyntaf i ddatblygu cynllun corff sy'n nodweddiadol o fod dynol modern.
DaethHomo sapiens i'r amlwg yn Affrica tua 300,000 ofyo o rywogaeth a ddynodwyd yn gyffredin naill ai felH. heidelbergensis neuH. rhodesiensis, disgynyddion yrH. erectus a arhosodd yn Affrica. YmfudoddH. sapiens allan o'r cyfandir, gan ddisodli'r poblogaethau lleol o ddynolion cynharach yn raddol.[20][21][22]
Nid dilyniant llinellol neu ganghennog syml oedd esblygiad dynol ond roedd yn cynnwys rhyngfridio rhwng rhywogaethau agos.[30][31][32] Mae ymchwil genomig wedi dangos bod croesrywio rhwng dynolion gwahanol yn gyffredin mewn esblygiad dynol.[33] Mae tystiolaethDNA yn awgrymu bod sawl genyn o darddiadNeanderthalaidd yn bresennol ymhlith yr holl boblogaethau nad ydynt yn Affrica, ac mae'n bosibl bod Neanderthaliaid a dynolion eraill, megisDenisovaniaid, wedi cyfrannu hyd at 6% o'ugenom i fodau dynol heddiw.[30][34][35]
Nodweddir esblygiad dynol gan nifer o newidiadaumorffolegol, datblygiadol,ffisiolegol ac ymddygiadol sydd wedi digwydd ers y rhaniad rhwng ytsimpansî a chyd-hynafiad diwethaf y dynolion. Y mwyaf arwyddocaol o'r addasiadau hyn yw cerdded deudroed, ymennydd mwy o faint, a llai o wahaniaeth mewn dwyffurfedd rhywiol. Mae’r berthynas rhwng yr holl newidiadau hyn yn destun dadl barhaus.[36]
Roedd aneddiadau dynol cynnar yn dibynnu ar agosrwydd at ddŵr ac adnoddau naturiol eraill a ddefnyddiwyd ar gyfer cynhaliaeth, megis poblogaethau o ysglyfaeth, anifeiliaid ar gyfer hela, a thir âr ar gyfer tyfu cnydau a phori anifeiliaid dof. Fodd bynnag, mae gan fodau dynol modern allu mawr i newid eu cynefinoedd trwy gyfrwng technoleg, dyfrhau, cynllunio trefol, adeiladu, datgoedwigo a diffeithdiro.[37]
Mae aneddiadau dynol yn parhau i fod yn agored i drychinebau naturiol, yn enwedig y rhai a leolir mewn lleoliadau peryglus ac sydd ag ansawdd adeiladu isel. Mae grwpio a newid cynefinoedd yn fwriadol yn aml yn cael ei wneud gyda'r nodau o ddarparu amddiffyniad, cronni cysuron neu gyfoeth materol, ehangu'r bwyd sydd ar gael, gwella estheteg, cynyddu gwybodaeth neu wella cyfnewid adnoddau.[38]
Mae bodau dynol yn un o'r rhywogaethau gorau am addasu i'w cynefin a'u hinsawdd.[39] Trwy ddyfeisio a newid eu ffyrdd, mae bodau dynol wedi gallu ymestyn eu goddefgarwch i amrywiaeth eang o dymheredd, lleithder ac uchder.[39] O ganlyniad, mae bodau dynol yn rhywogaeth gosmopolitan a geir ym mron pob rhanbarth o'r Ddaear gan gynnwyscoedwig law drofannol,anialwch crasboeth, rhanbarthau arctig hynod o oer, a dinasoedd llygredig iawn. Mae'r rhan fwyaf o rywogaethau eraill wedi'u cyfyngu i rai ardaloedd daearyddol gan fod eu gallu i addasu'n gyfyngedig.[40]
Fodd bynnag, nid yw'r boblogaeth pobl dros y blaned, wedi'i dosbarthu'n unffurf ar wyneb y Ddaear, oherwydd bod dwysedd y boblogaeth yn amrywio o un rhanbarth i'r llall ac mae ardaloedd eang bron yn gyfan gwbl anghyfannedd, e.e. Antarctica a'r cefnforoedd.[39][41]
Mae'r rhan fwyaf o bobl (61%) yn byw yn Asia; mae'r gweddill yn byw yn yr Americas (14%), Affrica (14%), Ewrop (11%), ac Ynysoedd y De (0.5%).[42]
Trosolwg o boblogaeth dynol cynnar a sut yr ymfudodd yn ystod y Paleolithig Uchaf, yn dilyn patrwm 'Gwasgariad y De'.
Hyd at tua 12,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd pob person ar wyneb y Ddaear yn byw felhelwyr-gasglwyr.[43]
Digwyddodd y Chwyldro Neolithig (cychwynamaethyddiaeth) gyntaf yn Ne-orllewin Asia ac ymledodd trwy rannau helaeth o'r Hen Fyd dros y milenia canlynol.[44]
Digwyddodd hefyd yn annibynnol ymMesoamerica (tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl),[45] Tsieina,[46][47] Papua Gini Newydd,[48] a rhanbarthau Sahel a Gorllewin Savanna yn Affrica.[49][50][51] Arweiniodd mynediad at fwyd dros ben at ffurfio aneddiadau dynol parhaol, dofi anifeiliaid a defnyddio offer metel am y tro cyntaf mewn hanes. Arweiniodd amaethyddiaeth a ffordd o fyw eisteddog at ymddangosiad gwareiddiadau cynnar.[52][53][54]
↑M. Goodman, D. Tagle, D. Fitch, W. Bailey, J. Czelusniak, B. Koop, P. Benson, J. Slightom (1990).Primate evolution at the DNA level and a classification of hominoids, Cyfrol 30, Rhifyn 3, tud. 260.DOI:10.1007/BF02099995
↑World POPClock Projection. U.S. Census Bureau, Population Division/International Programs Center (2008-07-05).
↑"Know Thyself: Responsible Science and the Lectotype of Homo sapiens Linnaeus, 1758". Proceedings of the Academy of Natural Sciences149 (1): 109–14. 29 January 1999. JSTOR4065043.
↑Kimbel, W. H.; Villmoare, B (2016). "FromAustralopithecus toHomo: the transition that wasn't". Philosophical Transactions of the Royal Society B371 (1698): 20150248. doi:10.1098/rstb.2015.0248. PMID27298460.
↑"Pleistocene Mitochondrial Genomes Suggest a Single Major Dispersal of Non-Africans and a Late Glacial Population Turnover in Europe". Current Biology26 (6): 827–33. March 2016. doi:10.1016/j.cub.2016.01.037. PMID26853362.
↑Scanes CG (January 2018). "The Neolithic Revolution, Animal Domestication, and Early Forms of Animal Agriculture". In Scanes CG, Toukhsati SR (gol.).Animals and Human Society. tt. 103–131.doi:10.1016/B978-0-12-805247-1.00006-X.ISBN9780128052471.
↑"4500-Year old domesticated pearl millet (Pennisetum glaucum) from the Tilemsi Valley, Mali: new insights into an alternative cereal domestication pathway". Journal of Archaeological Science38 (2): 312–322. February 2011. doi:10.1016/j.jas.2010.09.007.