Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Bobby Sands

Oddi ar Wicipedia
Bobby Sands
GanwydRobert Gerard Sands Edit this on Wikidata
9 Mawrth 1954 Edit this on Wikidata
Rathcoole,Belffast Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mai 1981 Edit this on Wikidata
HM Prison Maze Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gwyddel
Galwedigaethgwleidydd, animeiddiwr, Karosseriebauer, ymgyrchydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 48fed Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Diary of Bobby Sands Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolAnti H-Block Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.bobbysandstrust.com/ Edit this on Wikidata
Bedd Bobby Sands yn Miltown.

Aelod o'rIRA acAelod Seneddol ynSan Steffan oeddRobert Gerard "Bobby" Sands (Gwyddeleg:Roibeard Gearóid Ó Seachnasaigh) (9 Mawrth19545 Mai1981). Bu farw o ganlyniad i streic newyn yng ngharchar y 'Maze' (neuLong Kesh) yngNgogledd Iwerddon, ble roedd yn garcharor yn dilyn cael ei ddedfrydu'n euog o fod a dryll yn ei feddiant.

Roedd Bobby Sands yn arweinyddStreic Newyn 1981; roedd y gweriniaethwyr yn ceisio annog yr Awdurdodau i roi iddynt hawliau arbennig (Statws Categori Arbennig,Special Category Status) ac felcarcharorion gwleidyddol.

O ganlyniad i'w farwolaeth yn y carchar, ymunodd cannoedd â rhengoedd yr IRA a chafwyd cydymdeimlad cryf i'w achos ar ddwy ochor iFôr Iwerydd.

Crëwyd murlun mawr ar fur swyddfaSinn Féin yn yFalls Road,Belffast i'w goffa a cheir "Rue Bobby Sands" ym Mharis.[1]

Cyfansoddodd y canwr CymreigMeic Stevens y gân 'Bobby Sands' er cof amdano, sydd ar gael ar yr LPNos Du, Nos Da (1982).

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Llun o'r arwydd ar Trydar; adalwyd 5 Awst 2016.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Frank Maguire
Aelod Seneddol drosFermanagh a De Tyrone
1981
Olynydd:
Owen Carron
Rhagflaenydd:
Stephen Dorrell
Baban y Tŷ
1981
Olynydd:
Stephen Dorrell
Awdurdod


Baner Gweriniaeth IwerddonEicon personEginyn erthygl sydd uchod amun oIwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Bobby_Sands&oldid=12955888"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp