Curtis Mayfield,Jackie Wilson, Laurel Aitken, The Skatalites,Fats Domino, Prince Buster, The Isley Brothers, Smokey Robinson, Joe Higgs, Marcus Garvey, Coxsone Dodd,James Brown, The Flamingos, John Holt, The Paragons
RoeddRobert Nesta Marley OM (6 Chwefror 1945 - 11 Mai 1981) yn ganwrreggae oJamaica, yn gitarydd ac yn gyfansoddwr caneuon byd enwog. Caiffl ei ystyried yn un o arloeswyr y genre reggae, a chyfunodd elfennau o reggae,ska, a rocksteady yn ei gerddoriaeth; daeth yn enwog am ei arddull lleisiol a chyfansoddi unigryw.[1][2] Daeth a cherddoriaeth Jamaica i'r amlwg ledled y byd.[3][4] Yn ystod ei yrfa, daeth Marley yn adnabyddus fel eiconRastaffaraidd, a thrwythodd ei gerddoriaeth ag ymdeimlad o ysbrydolrwydd.[5]
Mae hefyd yn cael ei ystyried yn symbol byd-eang o gerddoriaeth a diwylliant Jamaica a hunaniaeth pobl, a chefnogodd, yn ddi-flewyn-ar-dafod, ddiwygiadau cymdeithasol heddychol yn ei wlad.[6][7] Roedd hefyd yn cefnogi cyfreithlonicanabis, ac yn eiriol dros Traws-Affricaniaeth.[8] Ym 1976, cafwyd ymgais i'w lofruddio yn ei gartref, ymgais wleidyddol, yn fwy na thebyg.[9]
Yn enedigol o Nine Mile, Jamaica, dechreuodd Marley ei yrfa gerddorol broffesiynol ym 1963, ar ôl ffurfio’r grŵp Teenagers gyda Peter Tosh a Bunny Wailer, a fyddai, ar ôl sawl newid enw, yn dod yn Wailers. Rhyddhaodd y grŵp ei albwm stiwdio gyntafThe Wailing Wailers ym 1965, a oedd yn cynnwys y sengl "One Love", a oedd yn ail-bobiad o "People Get Ready"; daeth y gân yn boblogaidd ledled y byd, a sefydlwyd y grŵp dros nos fel prif fand reggae.[10] Yn dilyn hyn, rhyddhaodd The Wailers 11 albwm stiwdio ychwanegol, ac ar ôl arwyddo i Island Records, newidiwyd enw'r band i Bob Marley and the Wailers. Wrth ddefnyddio offerynau uchel eu sain a chanu uwch i ddechrau, dechreuodd y grŵp gymryd rhan mewn adeiladu caneuon rhythmig yn y1960au hwyr a'r1970au cynnar, a oedd yn cyd-daro â throsiad Marley iRastafariaeth. Tua'r amser hwn, ac oherwydd perygl i'w fywyd, symudodd Marley i Lundain. Ymgorfforodd y grŵp eu sifft gerddorol yn eu halbwmThe Best of The Wailers (1971).
Dechreuodd y grŵp gael sylw rhyngwladol ar ôl arwyddo i Island, gan deithio i hybu'r albymauCatch a Fire aBurnin' (y ddau yn 1973). Yn dilyn diddymu'r Wailers flwyddyn yn ddiweddarach, parhaodd Marley i ganu o dan enw'r band.[11] Cafodd yr albwmNatty Dread (1974) dderbyniad cadarnhaol. Yn 1975, yn dilyn poblogrwydd byd-eang fersiwnEric Clapton o "I Shot the Sheriff" gan Marley,[12] tdaeth Marley i enwogrwydd rhyngwladol gyda'i hit cyntaf y tu allan i Jamaica, pan gyhoeddwyd y fersiwn fyw o "No Woman, No Cry", ar yr albwmLive![13] Dilynwyd hyn gan ei albwm arloesol yn yr Unol Daleithiau,Rastaman Vibration (1976), a gyrhaeddodd 50 Uchaf y Billboard Soul Charts.[14] Ychydig fisoedd ar ôl rhyddhau Rastaman Vibration, goroesodd Marley ymgais i'w lofruddio yn ei gartref yn Jamaica, ymgais a ysgogodd ef i adleoli'n barhaol i Lundain, lle recordiodd yr albwmExodus, a oedd yn ymgorffori elfennau o'rfelan,soul, a roc Prydeinig, a chafodd lwyddiant masnachol ysguboll. Ym 1977, cafodd Marley ddiagnosis o felanoma lentiginous acral ar ei droed; bu farw o ganlyniad i'r afiechyd yn 1981, yn fuan ar ôl ei fedyddio iEglwys Uniongred Ethiopia. Mynegodd ei gefnogwyr ledled y byd eu galar, a derbyniodd angladd genedlaethol yn Jamaica.
Rhyddhawyd yr albwm fwyaf, sefLegend ym 1984, a daeth yn albwm reggae a werthodd fwyaf erioed.[15] Mae Marley hefyd yn un o'r artistiaid cerdd sydd wedi gwerthu orau erioed, gydag amcangyfrif y gwerthiant yn fwy na 75 miliwn o recordiau ledled y byd.[16] Cafodd ei anrhydeddu gan Jamaica yn fuan ar ôl ei farwolaeth pan roddwyd iddo Urdd Teilyngdod. Ym 1994, ar ôl ei farwolaeth, cafodd ei sefydlu ynOriel Anfarwolion Roc a Rôl. Gosododd y cylchgrawnRolling Stone ef yn rhif 11 ar ei restr o'r 100 Artist Mwyaf erioed. a Rhif 98 ar ei restr o'r 200 o Gantorion Mwyaf erioed. Mae ei gyflawniadau eraill yn cynnwys Gwobr Grammy Lifetime Achievement Award, seren ar yHollywood Walk of Fame, a chyflwyniad i'r Black Music & Entertainment Walk of Fame.
Fflat Bob Marley ym 1972 yn 34 Ridgmount Gardens, Bloomsbury, Llundain
Roedd Bob Marley'n aelod o#r mudiadRastafaraidd, yr oedd ei ddiwylliant yn elfen allweddol yn natblygiad reggae. Daeth yn gefnogwr selog i Rastafariaeth, gan fynd â'i gerddoriaeth allan o ardaloedd difreintiedig yn Jamaica ac i'r sin gerddoriaeth ryngwladol.[17] Fel rhan o fod yn Rastafariwr teimlai fodHaile Selassie I o Ethiopia yn ymgnawdoliad o Dduw neu "Jah".[18] Fodd bynnag, yn ddiweddarach yn ei fywyd trosodd iGristnogaeth Uniongred Ethiopia a chafodd ei fedyddio gan yr Archesgob Abuna Yesehaq ym mhresenoldeb ei wraigRita Marley a'u plant, gyda'r enw Berhane Selassie, ar 4 Tachwedd 1980, ychydig cyn ei farwolaeth.[19][20]
FelRastaffariad cefnogai Marley gyfreithlonicanabis neu “ganja”, y maeRastaffariaid yn credu ei fod yn gymorth i fyfyrio.[21] Dechreuodd Marley ddefnyddio canabis pan drodd at y ffydd Rastafari oGatholigiaeth ym 1966. Cafodd ei arestio yn 1968 ar ôl cael ei ddal gyda chanabis ond parhaodd i ddefnyddio marijuana yn unol â'i gredoau crefyddol. Am hyn, dywedodd, "Pan fyddwch yn ysmygu perlysiau, mae'r perlysiau'n datgelu eich hun i chi. Mae'r perlysiau yn datgelu i chi eich holl ddrygioni mewnol, a'ch cydwybod, gan ddangos eich hun yn glir, oherwydd fod y perlysiau'n hollol naturiol, ac yn gwneud i chi fyfyrio, gan dyfu ynoch fel coeden."[22] Roedd Marley yn gweld y defnydd o marijuana fel ffactor hanfodol mewn i'w dwf crefyddol a'i gysylltiad â Jah, ac fel ffordd iathronyddu a dod yn ddoethach.[23]
Priododd Bob MarleyAlfarita Constantia "Rita" Anderson yn Kingston, Jamaica, ar 10 Chwefror 1966.[24] Roedd ganddo nfer o blant: ganed tri i'w wraig Rita, a mabwysiadwyd dau blentyn ychwanegol o berthnasoedd blaenorol Rita, a rhoddwyd iddynt yr enw Marley. Mae gwefan swyddogol Bob Marley yn cydnabod 11 o blant i gyd.
Sharon, ganed 23 Tachwedd 1964, merch Rita o berthynas flaenorol, ond a fabwysiadwyd wedyn gan Marley ar ôl ei briodas â Rita
Cedella, ganwyd 23 Awst 1967, i Rita
David "Ziggy", ganed 17 Hydref 1968, i Rita
Stephen, ganwyd 20 Ebrill 1972, i Rita
Robert "Robbie", ganwyd 16 Mai 1972, i Pat Williams
Rohan, ganwyd 19 Mai 1972, i Janet Hunt
Karen, ganwyd 1973, i Janet Bowen
Stephanie, ganwyd 17 Awst 1974, o berthynas y tu allan i briodas, a gafodd Rita gyda'r cyn-chwaraewr pêl-droed Owen "Ital Tacky" Stewart; serch hynny, mabwysiadodd Bob Stephanie fel ei blentyn ei hun a rhoddodd hawl iddi i'w stad.[26]
Julian, ganwyd 4 Mehefin 1975, i Lucy Pounder
Ky-Mani, ganwyd 26 Chwefror 1976, i Anita Belnavis
Damian, ganwyd 21 Gorffennaf 1978, i Cindy Breakspeare
Mae gan Marley hefyd nifer o wyrion nodedig, gan gynnwys y cerddorion Skip Marley ac YG Marley, y chwaraewrpêl-droed Americanaidd Nico Marley, a'r model Selah Marley.
↑"Soul".Billboard. Billboard Publications, Inc. 25 December 1976. t. 77.ISSN0006-2510. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 12 October 2013. Cyrchwyd2 September 2013.
↑Toynbee, Jason (2013).Bob Marley: Herald of a Postcolonial World. John Wiley & Sons. t. 88.ISBN978-0-7456-5737-0. Cyrchwyd14 December 2016.Rita has claimed that she was raped there [Bull Bay] by Bob in 1973 after he returned from London, and asked her to care for another child he was going to have by a woman there (Roper 2004). The formulation changes to 'almost raped' in her autobiography (Marley 2005: 113). But in any event, it seems clear that Bob behaved in an oppressive way towards her, always providing financial support for herself and the children it is true, yet frequently humiliating and bullying her.