Gwefan gan unigolyn neu grŵp sy'n cael ei ddiweddaru'n gyson gyda chofnodion mewn trefn wrth-gronolegol, gan amlaf gan ddefnyddiomeddalweddrheoli cynnwys megisBlogger,LiveJournal neuWordPress ywblog.
Mae'r term ''Blog'' yn dalfyriad o'r term Saesneg ''Web log'', a ddefnyddwyd yn wreiddiol i ddisgrifio cofnodion, neu log, o bethau diddorol roedd person yn eu darganfod ar y we.[1]
Nodweddir blogiau hefyd gan y gallu i roi sylwadau ar gofnodion, yn ogystal â ffrydiauRSS, sydd yn galluogi darllenwyr i dderbyn y cofnodion diweddaraf trwy ddarllenwr RSS. Mae RSS hefyd yn golygu y gall cynnwys blog gael ei ddosbarthu i wefannau eraill yn awtomatig wrth iddynt gael eu ddiweddaru.
Gall testun blog amrywio o hynt a helynt bywyd personol yr awdur i ganolbwyntio ar bwnc penodol, fel chwaraeon, crefydd neu wleidyddiaeth.[2] Mae yna hefyd flogiau sydd yn arbennig ar gyfer cofnodi lluniau yn uniongyrchol offôn symudol neu wedi eu llwytho ogamera digidol.
Mae dros 400 o flogiau ar gael yn y Gymraeg[3] ond daeth cynnydd yn y niferoedd yn nechrau2003, o bosibl yn sgil dylanwadMorfablogArchifwyd 2008-03-12 yn yPeiriant Wayback, un o'r blogiau Cymraeg cynharaf, yn unol a thŵfmaes-e, gwefan drafod yn Gymraeg, lle bu galw ar bobl i ddechrau blogiau er mwyn cynyddu'r swmp o wefannau a gynhelir yn Gymraeg.
Mae cyfran o flogiau Cymraeg yn cael eu cynnal gan bobl sy'n byw y tu allan i Gymru, gyda llawer ohonynt heb gysylltiad â Chymru na'r iaith.[4]
Gellir gweld detholiad o gofnodion o flogiau Cymraeg ary BlogiadurArchifwyd 2009-01-07 yn yPeiriant Wayback
Un o nodweddion gwasanaethau blogio yw eu hygyrchedd a'r gallu i gyfieithu'r patrymlun i'r Gymraeg. Mae platfform blogioWordpress wedi eileoleiddio i'r Gymraeg.[5]