| Arwyddair | Undeb a Rhyddid |
|---|---|
| Math | prif ardaloedd Cymru |
| Poblogaeth | 69,713 |
| Gefeilldref/i | Oberhausen-Rheinhausen |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 108.7279 km² |
| Yn ffinio gyda | Sir Fynwy,Bwrdeistref Sirol Caerffili,Powys,Torfaen |
| Cyfesurynnau | 51.7758°N 3.1964°W |
| Cod SYG | W06000019 |
| GB-BGW | |
![]() | |
Un o'r 22prif ardal Cymru ywBlaenau Gwent. Mae'nfwrdeistref sirol sy'n gweithredu felawdurdod unedol. Mae wedi'i lleoli yn ne-ddwyrain y wlad, yn ffinio â phrif ardaloeddTorfaen aSir Fynwy i'r dwyrain,Bwrdeistref Sirol Caerffili i'r gorllewin, aPhowys i'r gogledd.Abertyleri,Brynmawr,Glyn Ebwy, aThredegar yw'r prif drefi.

Sefydlwyd y fwrdeistref ym1974 feldosbarth llywodraeth leol yngNgwent. Cyfunwyd henddosbarthau trefolSir Fynwy, gan gynnwysAbertyleri,Glyn Ebwy,Nant-y-glo,y Blaenau aThredegar, yn ogystal âBrynmawr aphlwyfLlanelli ynSir Frycheiniog.
Ailansoddiwyd ym1996 felbwrdeistref sirol, gan eithrioLlanelli a aiff yn lle iSir Fynwy. Rheolir yr ardal ganGyngor Bwrdeistref Siriol Blaenau Gwent bellach.
Mae pobl wedi byw yn yr ardal hon ers dros 4,000 o flynyddoedd. Dyma ble roedd pobl Geltaidd o'r enw'rSilwriaid yn byw. I'rCymry, yr enw ar yr ardal hon rhwngAfon Sirhywi acAfon Gwy oeddGwent. Roedd pobl Gwent yn siarad tafodiaithGymraeg o'r enw 'Gwenhwyseg' am amser hir iawn. Ym 1542, daeth enw newydd i'r ardal -Sir Fynwy. Yna, daeth yChwyldro Diwydiannol a daeth newid. Agorodd gwaith haearn ynSirhywi ym 1779 ac wedyn mewn llefydd felGlyn Ebwy,Tredegar, aNant-y-glo. Daeth llawer o bobl newydd i'r ardal i weithio ac roedd llawer iawn yn Gymry Cymraeg. Wedyn, daeth y gwaith glo ac wedyn y gwaith dur. Roedd llawer iawn o bobl yn dod i'r ardal ac roedd iaith y Cymoedd yn newid yn araf o Gymraeg iSaesneg. Ym 1801, roedd 45,000 o bobl yn byw yn yr hen Sir Fynwy ac erbyn 1901, roedd 450,000 o bobl yn yr ardal ac roedd y rhan fwyaf yn siarad Saesneg. Ym 1991, dim ond 2.2% o'r bobl oedd yn gallu siarad Cymraeg, ond erbyn 2001, roedd 9.5% yn siarad Cymraeg ac mae nifer y bobl ifanc sy'n siarad yr iaith yn codi bob blwyddyn, gan fod ysgol gynradd Gymraeg newydd yno o'r enw Ysgol Gynradd Bro Helyg a leolir yny Blaenau (Ysgol GymraegBrynmawr] cyn hynny); Ysgol Gymraeg Bro Helyg.[1]
Rhennir y fwrdeistref sirol yn 11 ogymunedau:
Mae gan Blaenau Gwent y lefel uchaf o dlodi plant difrifol yng Nghymru, fel y datgelir gan ddata ystadegol yn ôl adroddiad gan Achub y Plant.
Yn ôly Cyfrifiad 2011, mae 5,284 o breswylwyr y sir (neu 7.8%) yn gallu siaradCymraeg, mewn cymhariaeth â 6,417 o siaradwyr (neu 9.5%) yn 2001.[2]
Trefi
Abertyleri ·Blaenau ·Bryn-mawr ·Glynebwy ·Tredegar
Pentrefi
Aber-bîg ·Brynithel ·Cendl ·Cwm ·Cwmtyleri ·Chwe Chloch ·Llanhiledd ·Nant-y-glo ·Rasa ·St Illtyd ·Swffryd ·Tafarnau-bach ·Trefil ·Y Twyn ·Waun-lwyd
| |||||||||||||