Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

William Morris Hughes

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd oBilly Hughes)
William Morris Hughes
Ganwyd25 Medi 1862 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw28 Hydref 1952 Edit this on Wikidata
Sydney Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstralia Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, diplomydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Awstralia, Attorney-General for Australia, Aelod o Tŷ'r Cynrychiolwyr, Awstralia, Member of the New South Wales Legislative Assembly, Minister for Foreign Affairs (Australia), Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o Tŷ'r Cynrychiolwyr, Awstralia, Aelod o Tŷ'r Cynrychiolwyr, Awstralia, Aelod o Tŷ'r Cynrychiolwyr, Awstralia, Attorney-General for Australia, Attorney-General for Australia, Attorney-General for Australia Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Lafur Awstralia, National Labor Party, Plaid Cenedlaetholwyr Awstralia, United Australia Party,Plaid Ryddfrydol Awstralia Edit this on Wikidata
PriodMary Hughes Edit this on Wikidata
PlantHelen Beatrice Hughes Edit this on Wikidata
Gwobr/auCydymaith Anrhydeddus Edit this on Wikidata
llofnod
Am bobl eraill o'r enw William Hughes neu Billy Hughes, gwelerWilliam Hughes.

BuWilliam Morris Hughes, sy'n fwy adnabyddus wrth yr enwBilly Hughes (25 Medi186228 Hydref1952) yn brif weinidogAwstralia o1915 hyd1923.

Blynyddoedd cynnar

[golygu |golygu cod]

Ganed ef yn rhif 7 Moreton Place,Pimlico,Llundain, yn unig fab i rieni Cymreig; roedd ei dad, William Hughes, oGaergybi a'i fam Jane oLansanffraid-ym-Mechain,Powys. Wedi marwolaeth ei fam mewn damwain trên ynGlastonbury ar 28 Mai 1869, pan oedd yn saith oed, bu'n byw gyda'i fodryb ddibriod Mary Hughes, chwaer ei dad, ynLlandudno. Bu'n fyw yn ei chartref ym Mryn Rosa, 16 Abbey Road; ceir plac ar y tŷ sy'n cofnodi hynny.[1] Mynychai ysgol fechan George Roberts yn y dref, mewn adeilad a godwyd fel ysgol Capel Wesleyaidd Caersalem yn 1837; ceir hen blac ar y drws sy'n darllen "The Right Honourable William Morris Hughes, Premier of Australia 1916-23, was educated in this building".[2] Symudodd oddi yno i fyw gyda theulu ei fam ynSir Drefaldwyn, lle gorffennodd ddysgu siarad Cymraeg.

Pan oedd yn 14 oed, dychwelodd i Lundain i weithio fel athro ifanc. Yn 1881, roedd yn byw gyda'i dad a chwaer hynaf ei dad, Mary Hughes, yn 78 Ffordd Vauxhall Bridge.

Awstralia

[golygu |golygu cod]

Ymfudodd i Awstralia yn Hydref1884. Wedi peth gwaith fel cogydd a labrwr, agorodd siop a bu'n weithgar gyda'r undebau llafur. Roedd ynSydney yn 1886 ble roedd yn byw gyda merch ei landlord, sef Elizabeth Cutts.

Yn 1901 etholwyd ef i'r Senedd dros y Blaid Lafur yn etholaeth Gorllewin Sydney. Yn y cyfnod hwn, astudiodd y gyfraith a chafodd ei wneud yn fargyfreithiwr yn 1903. Bu farw ei wraig yn 1906; ei ferch hynaf Ethel (ganwyd 1889) a fagodd ei bum plentyn iau, a hynny yn Sydney: William (1891), Lily (1893), Dolly (1895), Ernest (1897) a Charles (1899). Yn 1911 priododd Mary Cambell.[3] a ganwyd Helen iddynt yn 1915.

Prif Weinidog Awstralia

[golygu |golygu cod]

Daeth yn Brif Weinidog yn Hydref 1915, yng nghanoly Rhyfel Byd Cyntaf. Bu rhwyg gyda charfan o'r Blaid Lafur, a ffurfiodd Hughes a'i gefnogwyr ei blaid ei hun, y Blaid Genedlaethol, a enillodd etholiad1917, gyda Hughes yn parhau'n Brif Weinidog. Yn1919 cynrychiolodd Awstralia yn y trafodaethau a arweiniodd atGytundeb Versailles; dywedir ei fod yn sgwrsio yn Gymraeg gydaDavid Lloyd George. Ymddiswyddodd yn Chwefror 1923. Dyma ddisgrifiad un gohebydd papur newydd o Ffrainc ohono:

frail, narrow-shouldered, stooped, with the long, metallic face, seamed with lines, of a Breton peasant, at first he sits doubled up like a spider and lets others talk ... but suddenly he straightens out, darts forward his thin arms and the double trident of stretched out fingers and cuts through the flabbiness of the discussion with a word.[4]

Llyfryddiaeth

[golygu |golygu cod]
  • Booker, Malcolm.The great professional, a study of W.M. Hughes. McGraw Hill, Sydney, 1980.
  • Browne, Frank C.They called him Billy, a biography of the Rt. Hon. W. M. Hughes, P.C., M.P.. Peter Houston, Sydney.
  • Chase, Diana.William Morris Hughes: Prime Minister for the underdog. South Melbourne: Macmillan Education, 1993.
  • Fitzhardinge, L.F.William Morris Hughes: a political biography. Dwy gyfrol. Angus and Robertson, 1964, 1979
  • Horne, Donald Richmond.In search of Billy Hughes. Macmillan, 1979.
  • Hughes, Aneurin.Billy Hughes: Prime minister and controversial founding father of the Australian Labor Party. John Wiley & Sons Australia, 2005.
  • Iorwerth, Dylan. 'Billy Bach - cythraul mewn croen'.Golwg 6.6.1996, tt. 10-11.
  • Sladen, D.From boundary rider to Prime Minister. Llundain, 1916.
  • Whyte, W. Farmer.William Morris Hughes: his life and times. Angus and Robertson, 1957.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Ivor Wynne Jones,Llandudno, Queen of Welsh Resorts (ail argraffiad 2002), tud. 37.
  2. Ivor Wynne Jones,Llandudno, Queen of Welsh Resorts (ail argraffiad 2002), tud. 26.
  3. Gweler erthygl Saesneg arni hi a Hughes
  4. "Gweler erthygl Saesneg ar". Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2009-05-15. Cyrchwyd2008-12-28.

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
Awdurdod
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=William_Morris_Hughes&oldid=14286262"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp