Delwedd:Monumental Basin in Bibracte.jpg, Bibracte Porte Rebout.jpg | |
Math | Oppidum, safle archaeolegol,amgueddfa ![]() |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Sir | Saint-Léger-sous-Beuvray, Glux-en-Glenne, Larochemillay ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 46.9231°N 4.0375°E, 46.9244°N 4.035°E ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | monument historique classé, Grand site de France ![]() |
Manylion | |
RoeddBibracte ynoppidum neu ddinas gaerog yngNgâl, prifddinas yrAedui ac un ofryngaerau pwysicaf Gâl. Mae cloddio archaeolegol ar y safle wedi datgelu oliondiwylliant La Tène. Mae'roppidum yn gorwedd ar bedwar bryn, gan gynnwys Mont Beuvray (2500 troedfedd), gyda arwynebedd tir o tua 130 hectar. Mae tairarysgrif ddefodol a ddarganfuwyd ar y safle yn dangos iddo gael ei enwi ar ôl duwies Geltaidd o'r un enw.
Yn 58 CC gorchfygoddIŵl Cesar yrHelvetii ym Mrwydr Bibracte, 16 milltir i'r de o'r oppidum. Yn Bibracte y cyfarfu'r llwythau Galaidd i gyhoeddiVercingetorix yn arweinydd y gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid, ac yn Bibracte y gorffennodd Cesar ei lyfrDe bello Gallico ar ôl gorchfygu'r gwrthryfel. Ychydig ddegawdau wedyn, yn amser yr ymerawdwrAugustus, symudwyd poblogaeth Bibracte i ddinas Rufeinig newyddAugustodunum (Autun heddiw), 25 km i ffwrdd.
Bu'r cloddio cyntaf ar y safle gan farsiandïwrgwin o'r enw Gabriel Bulliot rhwng 1867 a 1895, a pharhawyd y gwaith gan ei naiJoseph Déchelette o 1897 hyd 1907. Mae'r safle, (Mont Beuvray), yn awr yn barc archaeolegol. Fe'i lleolir yndépartementSaône-et-Loire, 12 milltir i'r gorllewin o Autun.